Horrible Histories: Rotten Royals

Teulu

Adolygiad

23 - 24 Gor 2024
Amrywiaeth

Prisiau

£16.50. Dan 25 Hanner Pris.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg
  • Oedrannau: 5+
  • Hyd: Tua 65 munud (heb egwyl)

Rydyn ni i gyd eisiau cwrdd â phobl o hanes. Y broblem yw bod pawb wedi marw!

Mae Horrible Histories yn ôl gydag arweinwyr arswydus a brenhinoedd brawychus o orffennol gwyllt Prydain!

A fyddech chi’n cael eich swyno gan Rhisiart Lewgalon? Ydych chi’n barod am ddêt gyda’r Brenin Edward I? Fyddech chi’n cael eich siglo neu’ch ysgwyd gan Rhisiart III? Dewch i weld Mari Tudur yn dweud y drefn wrth Mari Brenhines yr Alban! A all Elisabeth erchyll ddiddanu Lloegr? A chewch chi eich crogi gan y Brenin Iago am fod yn wrach? Dewch i ganu gyda’r Brenin Siarl gwyllt a dawnsio ym mhartïon y Frenhines Fictoria!

Gan frolio’r golygfeydd brenhinol mwyaf doniol a gwarthus o sioeau poblogaidd Barmy Britain, mae Rotten Royals yn addo difyrrwch llwyr i bobl Gaerdydd!

Dyma hanes yn cynnwys y darnau cas!