Hansel a Gretel

Crëwyd yn y Sherman Nadolig Perfformiadau yn Gymraeg Sherman yn 50 Teulu Theatr

Ysgrifennwyd gan Katie Elin-Salt

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

4 Tach 2023 – 6 Ion 2024
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Oedran: 3 - 6
  • Iaith: Cymraeg
  • Hyd: 45 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe yma yn cynnwys goleuadau sy’n fflacio, niwl a synnau uchel.

Mae Hansel a Gretel yn gyflwyniad perffaith i’r theatr ar gyfer plant rhwng 3 a 6 oed.

Mae hi’n Noswyl Nadolig ond mae rhywbeth o’i le yn y goedwig. Mae coed pinwydd yn troi’n goed Losin. Mae’r afon yn gorlifo gyda thriog. Gwaith Sioned Siocled yw’r cyfan sy’n troi bob dim yn losin!

Dim ond Hansel a Gretel sy’n sefyll yn ei ffordd. Ânt ymaith ar antur anhygoel i achub y goedwig. Ar eu taith byddant yn cyfarfod ffrindiau newydd hudol megis Spencer y Wiwer a Trefor y Goeden. Byddant hefyd yn dysgu mai holi am gymorth yw’r peth dewraf y gall unrhywun ei wneud.

Yn llawn caneuon a chwerthin, mae’r fersiwn newydd yma o Hansel a Gretel yn stori y mae pawb yn ei garu gyda thro ychwanegol blasus a chwareus. Mae ein sioe Nadolig hudolus wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rheiny rhwng 3-6 oed yn cynnig rhyfeddod, cyfaredd a llawer iawn o hwyl.

Sain Disgrifiad gan Erika James
Dehongliad BSL gan Claire Anderson

Mae’r perfformiad hyn yn y Gymraeg. Bydd Hansel and Gretel yn cael eu berfformio yn Saesneg ar perfformiadau gwahanol.

Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:

  • Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld Hansel a Gretel am lai na £40 (yn amodol ar argaeledd).
  • Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad. Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).

Taith:
Maw 7 – Glan yr Afon, Casnewydd
Mer 8 / Iau 9 – Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
Gwe 10 / Sad 11 – Canolfan Garth Olwg Centre, Pentre’r Eglwys
Llun 13 – Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Tue 14 / Gwe 17 – The Drill Hall, Cas-gwent
Mer 15 – Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Llun 20 / Maw 21 – Canolfan Soar, Penygraig
Mer 22 / Iau 23 – Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri

Pecyn Gweithgareddau
Rydym wedi creu pecyn gweithgareddau i gael pobl ifanc i ymgysylltu â’r cynhyrchiad, y cymeriadau, a’r themâu.