Gŵyl Ymylol Caeredin: An Audience with Milly-Liu

Comedy Theatre

Ysgrifennwyd gan François Pandolfo

Cyfarwyddwyd gan Dan Jones

Adolygiad

3 - 29 Awst
11.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Lleoliad: The Attic, Pleasance Courtyard, 60 Pleasance, Edinburgh, EH8 9TJ
  • Hyd: 60 munud
Gwybodaeth pwysig

Mae’r sioe yn cynnwys cyfranogiad o’r gynulleidfa, iaith gref a deunydd o natur rywiol.

Comedi un dyn gan ddrag-gath yng Ngŵyl Caeredin.

Dyma bennod olaf o hunangofiant seren ffilm enwog.

Mae’r gath wedi’i gollwng o’r cwd ac mae Milly-Liu yn barod i ddweud ei dweud am eich hoff gathod enwog. O Bagpuss i Felix, mae hi wedi gweithio gyda’r goreuon i gyd, ac wedi bod i’r gwely gyda’r gweddill! Dewch i ymuno â hi (os meiddiwch), ond gair o rybudd, bydd hi’n eich taflu o gwmpas fel llygoden hanner marw a phlis peidiwch sôn am David Attenborough!

difficult|stage mewn cydweithrediad â The Pleasance & Theatr y Sherman gyda chefnogaeth gan The Other Room.

Cliciwch YMA i weld taflen wybodaeth Milly-Liu.