Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Gwefr

Dawns
Archive

Adolygiad

17 - 19 Medi 2025
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Perfformiad yn para tua 140 munud. (yn cynnwys egwyl)

Archwiliwch fydoedd newydd drwy ddawns.

Darganfyddwch dri byd newydd sy’n ymestyn o chwedloniaeth hynafol i ffuglen wyddonol ddyfodolaidd. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich trawsgludo drwy stori, amser a lle gyda’r triawd o ddawnsfeydd hudolus a chynllunio hyfryd.


Beth am gael eich ysbrydoli gan ‘Infinity Duet,’ cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye tan a’r artist Cecile Johnson Soliz y mae ei gwisgoedd sydd wedi’u gorchuddio gyda brasluniau a’r cerflun sy’n siglo yn cymryd eu lle ar ganol y llwyfan, ochr yn ochr â symudiad cynnes, ysbrydol sy’n archwilio pwysau ac amser.

Cewch eich hudo gan ‘Waltz’ Marcos Morau, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Ewrop. Mae bodau disglair o du hwnt i’r byd hwn yn symud ar draws tirwedd wen, foel gyda chywirdeb manwl iawn. Dyma antur ffuglen wyddonol yn creu anhrefn, trefn a rheolaeth, sy’n cael ei galw’n “hollol gymhellol” gan y Times.

Yn olaf, cewch eich trawsgludo ar siwrne i ddarganfod ‘Mabon’ gan Osian Meilir. 
Profwch y Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi fynd ar daith drwy’r hen Gymru i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd. 
Mae traddodiad yn cael ei ystumio gan ddychymyg gwyllt yn y chwedl fodern hon. Mae gwisgoedd rhyfeddol a choreograffi gwrthryfelgar yn cael eu gwau i mewn i dreftadaeth, straeon gwerin a dirgelwch. Fe’i hysbrydolwyd gan fyd chwedloniaeth o Gymru ac mae wedi’i gosod i gerddoriaeth newydd gan chwaraewr y delyn deires o Gymru, Cerys Hafana.

17 & 19 Medi – Post show talk BSL Cathryn McShane (17 Medi) a Claire Anderson (19 Medi)

18 & 19  Medi – Live AD Alistair Sill