Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cwmni Richard Burton yn cyflwyno

Guys and Dolls

Musical Theatre

Adolygiad

1-6 Gor 2026
Amrywiaeth

Prisiau

£25; Gostyngiadau £23; O Dan 25 Hanner Pris.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Chwedl gerddorol o Broadway.

Dewch i gwrdd â Nathan Detroit, gamblwr, sy’n ceisio trefnu gêm dis Craps fwyaf Efrog Newydd tra bod yr heddlu ar ei ôl, a Sky Masterson, a fetiodd y gallai ennill calon y genhades Sarah Brown. Mae’r sioe gyffrous hon sydd wedi’i thrwytho ym myd annymunol gangsters Efrog Newydd yn y 1950au, yn gwibio rhwng caffis Havana a charthffosydd y ddinas. Wedi’i pherfformio gan Gwmni Richard Burton, bydd y clasur o gomedi ramantus hon yn eich denu i gyd-ganu caneuon eiconig megis ‘I’ve Never Been in Love Before,’ ‘Sit Down, You’re Rockin’ the Boat’ a ‘Luck Be a Lady’.

Yn seiliedig ar stori a chymeriadau Damon Runyon, mae Guys and Dolls wedi dod yn un o’r sioeau cerdd Americanaidd gorau erioed.

Cyflwynir Guys and Dolls trwy drefniant arbennig gyda Music Theatre International (MTI). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd yn cael eu cyflenwi gan MTI. www.mtishows.com

Llyfr gan Abe Burrows & Jo Swerling
Cerddoriaeth a Geriau Frank Loesser
Cyfarwyddwr Omar F Okai
Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate
Coreograffydd Simone Mistry-Palmer

Taith Cyffwrdd
Llun 6 Gorffennaf, 6.15pm
Cyn y perfformiad hwn, rydym yn cynnig Taith Cyffwrdd am ddim i helpu i drochi ein cynulleidfaoedd yn yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan mewn ffordd hwyliog. Mae hyn yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd yr effeithir arnynt gan golled golwg i ddod yn gyfarwydd â’r set, y propiau, y gwisgoedd, a chlywed gan y bobl sy’n creu’r sioe.