Griff Rhys Jones: The Cat’s Pyjamas

Comedi
Archive

Adolygiad

19 Ebr 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Hyd: Tua 2 awr 10 munud (yn cynnwys egwyl)

Mae Griff Rhys Jones yn ôl ar daith gyda’i sioe stand-yp newydd sbon ar gyfer 2024. Ymunwch â Griff wrth iddo rannu mwy o sylwadau doniol a straeon comig.

Mae’r sioe bob amser yn amrywio wrth i Griff drafod datblygiadau a pharhad yr argyfwng cenedlaethol. Oed. Teulu. Twyll. Hiraeth. Y genhedlaeth Tik Tok. Smyglo crocodeilod a nwdlio yn Awstralia. Teithio, cŵn, gwestai, yfed a threnau canol nos. Fe fydd yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa a gadael i’w feddwl i grwydro wrth gysylltu un peth â’r llall.

Mae The Cat’s Pyjamas yn dilyn taith ryngwladol hynod lwyddiannus ddiwethaf Griff, All Over The Place, a’i gwelodd yn perfformio i dorfeydd at gapasiti ledled y DU, Awstralia a Seland Newydd. Tu hwnt i’r llwyfan, mae Griff yn fwyaf adnabyddus am ei ymddangosiadau di-ri ar y teledu, gan gynnwys serennu mewn deg cyfres o Smith & Jones a chwarter o’r rhaglen arloesol Not The Nine O’Clock News, tra bod ei gyfresi dogfen niferus – Griff’s Canadian Adventure (Channel 4) fel yr un mwyaf diweddar – wedi profi’n boblogaidd ac ennill cymeradwyaeth gritigol.

‘Great comedy’ ★★★★ The Telegraph

‘The jokes come faster than the rapids on the River Tay’ The Guardian