Theatr y Sherman

Tilting At Windmills

Back in Play

Ysgrifennwyd gan Hannah McPake

Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake

Archive

Adolygiad

Sadwrn 9 - Sadwrn 30 Hydref
6.30pm, 8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Stiwdio
  • Seddi: Seddau arddull Cabaret
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r cynhyrchiad yma’n cynnwys iaith gref ac yn ymdrin a themâu o golled. Ceir mwg, strôb a goleuadau sy’n fflachio yn ogystal.

Wedi'i ysbrydoli gan Don Quixote gan Miguel De Cervantes.

Perfformiwr Mared Jarman

Mae Tilting at Windmills gan Hannah McPake (Rodney and the Shrieking Sisterhood) yn ddrama gynnes a serchog ynglyn â sylweddoli beth yw ein cyfyngiadau, derbyn methiant a goresgyn rhwystrau.

Ailfywiogi. Adfywio. Ailgysylltu. Ailddyfeisio.

Mae Golwg Gwahanol wedi’i ysbrydoli gan ddramâu a llyfrau clasurol, ac yn gasgliad o bedair drama fer newydd sy’n llawn bywyd. Mae pob drama yn 30 munud o hyd, ac yn eofn, yn llawn agwedd, hwyl ac ysbryd cyfoes. Mae Golwg Gwahanol wedi’i greu yn arbennig i’ch ailgysylltu chi â llawenydd theatr fyw. Ysgrifennwyd y dramâu gan griw nodedig o awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, rhai yn brofiadol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae Golwg Gwahanol yn adrodd straeon rhyfeddol a chyfareddol, yn delio â bywyd heddiw, yn rhoi lle i chi feddwl ymysg moroedd o emosiynau.

Gŵyl Ymlaen â’r Sioe (yn cynnwys Golwg Gwahanol, Nosweithiau Comedi, Ail-Chwarae a’r Young Queens):
1 sioe £9,
Unrhyw 2 sioe £15,
Unrhyw 3 sioe £20,
Unrhyw 4 sioe £24
(Rhaid archebu tocynnau aml-sioe ar yr un pryd),
Dan 25 oed Hanner Pris