Theatr y Sherman

The Messenger

Back in Play

Ysgrifennwyd gan Seiriol Davies

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

Gwener 8 - Iau 28 Hydref
8.00pm

Gwybodaeth Bellach

  • Ofod: Y Stiwdio
  • Seddi: Seddau arddull Cabaret
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth Bwysig

Mae’r cynhyrchiad yma’n cynnwys themâu o natur rywiol yn ogystal â mwg, strôb a goleuadau sy’n fflachio.

Wedi'i ysbrydoli gan Romeo and Juliet gan William Shakespeare.

Beth sy’n digwydd pan fydd y pethau dibynadwy rydych chi’n eu cymryd yn ganiataol yn codi i’ch brathu? Mae The Messenger yn sioe gerdd fer ffraeth ac anarchaidd gan Artist Cyswllt y Sherman Seiriol Davies (How To Win Against History).

Ailfywiogi. Adfywio. Ailgysylltu. Ailddyfeisio.

Mae Golwg Gwahanol wedi’i ysbrydoli gan ddramâu a llyfrau clasurol, ac yn gasgliad o bedair drama fer newydd sy’n llawn bywyd. Mae pob drama yn 30 munud o hyd, ac yn eofn, yn llawn agwedd, hwyl ac ysbryd cyfoes. Mae Golwg Gwahanol wedi’i greu yn arbennig i’ch ailgysylltu chi â llawenydd theatr fyw. Ysgrifennwyd y dramâu gan griw nodedig o awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, rhai yn brofiadol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae Golwg Gwahanol yn adrodd straeon rhyfeddol a chyfareddol, yn delio â bywyd heddiw, yn rhoi lle i chi feddwl ymysg moroedd o emosiynau.

Gŵyl Ymlaen â’r Sioe (yn cynnwys Golwg Gwahanol, Nosweithiau Comedi, Ail-Chwarae a’r Young Queens):
1 sioe £9,
Unrhyw 2 sioe £15,
Unrhyw 3 sioe £20,
Unrhyw 4 sioe £24
(Rhaid archebu tocynnau aml-sioe ar yr un pryd),
Dan 25 oed Hanner Pris