Wedi'i ysbrydoli gan Prometheus Bound gan Aeschylus.
Yn 2021, nid tân mae Prometheus yn ei ddwyn oddi wrth y Duwiau, ond cariad. Mae The Love Thief, a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan y dramodydd, yr actor a’r dawnsiwr bol Rahim El Habachi yn edrych ar rywioldeb, hil a realiti bywyd ym Mhrydain heddiw.
Ailfywiogi. Adfywio. Ailgysylltu. Ailddyfeisio.
Mae Golwg Gwahanol wedi’i ysbrydoli gan ddramâu a llyfrau clasurol, ac yn gasgliad o bedair drama fer newydd sy’n llawn bywyd. Mae pob drama yn 30 munud o hyd, ac yn eofn, yn llawn agwedd, hwyl ac ysbryd cyfoes. Mae Golwg Gwahanol wedi’i greu yn arbennig i’ch ailgysylltu chi â llawenydd theatr fyw. Ysgrifennwyd y dramâu gan griw nodedig o awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, rhai yn brofiadol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae Golwg Gwahanol yn adrodd straeon rhyfeddol a chyfareddol, yn delio â bywyd heddiw, yn rhoi lle i chi feddwl ymysg moroedd o emosiynau.
Gŵyl Ymlaen â’r Sioe (yn cynnwys Golwg Gwahanol, Nosweithiau Comedi, Ail-Chwarae a’r Young Queens):
1 sioe £9,
Unrhyw 2 sioe £15,
Unrhyw 3 sioe £20,
Unrhyw 4 sioe £24
(Rhaid archebu tocynnau aml-sioe ar yr un pryd),
Dan 25 oed Hanner Pris