Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno

CDCC: Glas | Blue

Dance
Archive

Adolygiad

17 a 18 Medi 2026
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth bwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys niwl a cherddoriaeth uchel. Mae Ordinary Courage yn cynnwys cyfeiriadau at galar.

Gadewch i CDCCymru eich tywys drwy noson o ddawns enbyd o hardd.

Pan nad yw geiriau’n ddigon, gall symudiad a chyffyrddiad ein sefydlogi. 

Wedi’i chreu yn 2012 ac wedi’i ail-greu eleni gyda CDCCymru, mae ‘Ordinary Courage’ gan Theo Clinkard yn adlewyrchiad didwyll o alar, colled a chryfder tawel cysylltiad dynol.
Wedi’i osod i sgôr atgofus sy’n ymgorffori Scarlatti a Bach, mae’r gwaith hwn yn dwymgalon ac yn hynod o drawiadol a chathartig. Bydd yn aros yn eich cof am amser hir ar ôl i’r symudiad ddod i ben.

Mae ‘Untamed’ yn waith newydd o’r galon gan Alesandra Seutin (Enwebai Gwobr Olivier 2026 ac Artist Cyswllt Sadler’s Wells) wedi’i wreiddio yn yr ysfa ddynol i redeg. Cyrff wedi’u pweru gan emosiwn yn barod am ryddhad. Gyda’n gilydd, symudwn ymlaen. Ydym ni’n rhedeg i ffwrdd neu tuag at rywbeth newydd? Wedi’i gosod i drac sain ysgogol sy’n cynnwys offerynnau Cymreig traddodiadol a lleisiau cyndadol, bydd y ddawns athletaidd, awdurdodol yn bywiogi’r synhwyrau, yn puro’r enaid a’ch gadael yn syfrdan.  

Perfformiadau Hygyrch:

Disgrifiwr Sain: Alistair Sill

Bydd sgwrs ar ôl y sioe ar 17 Medi gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Claire Anderson.