Full House

Theatr

Ysgrifennwyd gan a’i pherfformio Hannah Lad

Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake

Archive

Adolygiad

5 - 7 Chwe 2026
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

Yn cynnwys iaith gref a themâu o alar a gamblo. Hefyd, goleuadau sy’n fflachio, synau mawr a rhannau rhyngweithiol sy’n cynnwys y gynulleidfa.

Bydd y seddi ar ffurf cabare a ni fyddant yn cael eu dyrannu.

Byddwch yn barod am hwyl a sbri!

Dewch i chwarae yn Full House – noson bingo ar ei orau. Sam yw eich gwesteiwr, bydd hi’n galw’r rhifau, ond beth sydd wir yn digwydd gyda hi mewn gwirionedd? Ydy hi’n iawn? Noson bingo ydy hon, ie? Pam bod gyda hi wrn?

Mae drama ddoniol a chyffrous Hannah Lad yn cymysgu doniolwch ag ychydig o dristwch i adrodd stori falch o’r Cymoedd am y llawenydd, y golled a’r cariad sy’n siapio pwy ydym ni. Mae gan Full House bopeth y gallech chi fod ei eisiau o noson allan wych yn y theatr; chwerthin, syrpreisys a llawer o galon – HOUSE!

Cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth Theatr  y Sherman a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Perfformiadau Hygyrch:

Iau 5 Chwe – 7:30pm: Dehongli Iaith Arwyddion Prydain

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain:Julie Doyle

 

Cynnig Pei a Diod:

I gwsmeriaid â thocyn ‘Pei a Diod’, dangoswch eich tocyn wrth y bar i ddewis un pei ac un ddiod o’r dewis canlynol:

Peis

Cig Eidion ac Ale

Madarch a Stout (Fegan)

(Siaradwch ag aelod o staff y bar os hoffech drafod alergeddau).

Diodydd

Peint o Pravha

Peint o Seidr Sharps

Gwydraid o win tŷ

Peint o Pepsi

Os yr ydych wedi prynu pei a diod cyn-sioe efo’ch tocyn, gallwch chi gasglu a mwynhau nhw yn y Bar Caffi rhwng 5 a 6.30yh (Gwener), 5 a 7yh (Sadwrn).

Prynwch eich peir ar y noson:

Os nad ydych wedi prynu pei efo’ch tocyn, mi fyddwn ni’n gwerthu peis o 5yh at y bar yn amodol ar argaeledd.

Plîs nodwch, nad yw bwyd poeth i’w caniatáu yn y Stiwdio.