Forgiveness of a Monster

Crëwyd yn y Sherman Crёwyd gan y Sherman Theatr
Archive

Adolygiad

8 - 23 Mai 2026
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Amser rhedeg: 80 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref, yn ymdrin â themâu aeddfed ac yn cynnwys darnau o gyfranogiad a rhyngweithio â’r gynulleidfa. Sylwch fod y perfformiad hwn hefyd yn cynnwys niwl, goleuadau’n fflachio a cherddoriaeth uchel barhaus. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma

This pain is something I wanted to hold onto
As it made me who I am
Forged me as I grew
Maybe it’s time I let it go
And started new

Mae Forgiveness of a Monster yn archwiliad cyflawn o’r camgymeriadau mawr ym mywyd Connor, y boen maen nhw wedi’i achosi i’r bobl mae’n eu caru, a gwir ystyr maddeuant.

Dyma ddrama ddwys a thyner sy’n dilyn taith Connor wrth iddo wynebu darnau blêr, hardd ac amherffaith ei fywyd sydd wedi dod at ei gilydd i greu’r dyn ydyw heddiw.

Mae’r darn hunangofiannol, greddfol hwn yn cael ei gymell gan drac sain gwreiddiol a grëwyd gan Oraine Johnson, sy’n caniatáu i ni ymgolli’n llwyr ym meddwl Connor, ac yn ein gadael ni i gyd yn wynebu’r cwestiwn: beth yw maddeuant, a beth yw ei ddiben?

Perfformiadau Hygyrch:

Dehonglwr BSL: Nikki Champagne-Harris

Capsiynau: Erika James




Cast
Tîm Creadigol