National Theatre Wales

Feral Monster

Theatr

Ysgrifennwyd gan Bethan Marlow

Cyfarwyddwyd gan Izzy Rabey

Archive

Adolygiad

15 - 24 Chwe 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Theatr
  • Hyd: Tua 1 awr 20 munud heb egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref iawn, golygfeydd rhywiol, themâu oedolion a phynciau y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa eu gweld yn peri gofid. Nodwch fod yna niwl a chyfnodau byr o oleuadau’n fflachio a all effeithio ar y rhai â goleusensitifedd. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.

Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.

Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Mae Feral Monster wedi’i hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang. Y cast yw Lily Beau, Carys Eleri, Geraint Rhys Edwards, Rebecca Hayes, Nathaniel Leacock a Leila Navabi.

“Rydyn ni’n ceisio dweud stori sy’n cwiar, sy’n Gymreig, sy’n wledig.” Bethan Marlow

Sain Disgrifiad a Thaith Cyffwrdd gan Owen Pugh.

Dehongliad BSL gan Nikki Champagnie Harris.

Bydd y perfformiad ar 22 Chwefror yn Perfformiad Ymlaciol:
• Gall cynulleidfaoedd symud o gwmpas, siarad a lleisio yn ôl yr angen
• Mae’r drysau allanol i’r cyntedd ar agor trwy gydol y sioe
• Mae goleuadau tŷ’r awditoriwm ymlaen yn ystod y sioe ar lefel isel
• Mae amddiffynwyr clustiau ar gael i’w benthyca am ddim gan dîm y Swyddfa Docynnau a Thywyswyr yn yr awditoriwm
• Mae ‘ardal ymlacio’ (Ystafell Fyw Gyhoeddus Camerados) yn y cyntedd ar gael i’w defnyddio pan fo angen

Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’I cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, a Jack Arts.