Dyn mewn datblygiad
Mae’n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi’i eni yn y corff anghywir, yn dechrau chwilio am y bywyd mae o wir eisiau ei fyw.
Wrth iddo gychwyn ar y daith o drawsnewid, mae tensiynau’n codi, mae perthnasoedd yn dechrau teimlo’r straen, ac mae’r gefnogaeth sydd wastad wedi bod yn gadarn yn dechrau teimlo’n fregus. Pan gaiff ei wrthod mae’n ei cholli hi ac yn gwthio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf.
All Jac ddibynnu ar y rhai agosaf ato pan mae o eu hangen fwyaf?
Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.
Pob perfformiad wedi ei gapsiynu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y cynhyrchiad hwn yn teithio i:
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth – 7 Hydref 2025
Galeri, Caernarfon – 9 Hydref 2025
Pontio, Bangor – 10 Hydref 2025
Perfformiadau BSL:
Pontio, Bangor 10 Hydref
Pecyn Cymorth Dynolwaith