Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr

Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

Musical Theatre Perfformiadau yn Gymraeg Teulu

Ysgrifennwyd gan Mererid Hopwood

Cyfarwyddwyd gan Ffion Wyn Bowen

Adolygiad

11 - 13 Meh 2026
Amrywiaeth

Prisiau

£16. Gostyngiadau £14. Plant a Dan 25 £8.

Gwybodaeth Bellach

  • Oedran: 7+
  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Muisc by: Seriol Davies

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg… mae’r ysgol yn mynd i GAU!

Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!

Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.

Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.

Whwsh! Bant â ni!

Bydd y perfformiad ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin yn cael ei ffilmio at bwrpasau archif a chyfleoedd darlledu/ffrydio yn y dyfodol.