Daniel Kitson: Thrum

Comedi

Adolygiad

21 Medi 2026
7.30yh

Prisiau

£15

Sioe gomedi newydd gan Daniel Kitson.

Mae ’na sŵn o rywle arall a hir oes potyn blanhigyn a hollbresenoldeb dywediad a byrder torcalonnus hir amser. Mae ffigys a mwydod a hen gi yn gwrthod blanced. Mae menyw, ar drên, yn gwisgo bathodyn. Mae bîp cyntaf larwm mwg a chenhinen Bedr ym mis Rhagfyr ac mae ‘na gyflwr ffrwythau. Mae llaw yn y gwely a stwff ar y staer ac mae staen ar fy siwmper ac mae coeden enfawr mewn storfa ar fferm yng Nghaint. Does dim i’w ddweud ac mae’r syniad o bydru ac mae enw ar deimlad a’r arogl o dybaco. Mae ‘na deuddegfed llawr mewn gwesty a phen draw ar blatfform yng ngorsaf drenau Tamworth. Mae dyletswydd i weithredu a’r gwrthwynebiad rhag datblygu ac mae lle newydd lan yr heol a rheolydd sain gwbl segur. Mae ‘na dŷ bach yn Hong Kong a siop goffi ym Melbourne a llwybr goleuni trwy adeilad a’r bwriad o wneud pethau tipyn mwy anodd nag sydd raid.

Ac.

Mae cerddoriaeth, mwy neu lai, trwy’r cyfan, ac o leiaf dau lais doniol gwahanol a mwy na tair jôc.