Daniel Kitson: Collaborator- A Work In Progress

Theatr
Archive

Adolygiad

9 - 11 Ebr 2024
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 1 awr (heb egwyl)
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref.

Dwi ddim yn hoffi cyfranogiad o’r gynulleidfa.

Dwi’n ei weld yn greadigol ddiffaith, yn ddadleuol ar sail foesegol ac os welaf wedi’i grybwyll ym mroliant sioe, wna’i wrthod mynychu oherwydd gwrthwynebiad moesol ac / neu anghysur personol.

Ta waith.

Ysgrifennais ddarn am hyn sydd â dros 200 rhan.

Felly…

Lluniwyd Collaborator yn benodol fel sioe ar gyfer theatr gron a chaiff ei haddasu ychydig ar gyfer bob lleoliad. Mae’n debygol mai hwn fydd y pumed perfformiad a tua’r wythfed addasiad sy’n golygu bod y sioe, mewn gwirionedd, nawr yn eithaf da.