Avalon UK yn cyflwyno

Daniel Foxx: How Lovely

Comedi

Adolygiad

5 Tach 2026
7.30pm

Prisiau

£22.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

14+. Yn cynnwys rhegi a chynnwys oedolion.

Roedd Daniel yn benderfynol o ymdopi â’i dor calon gydag urddas Julia Roberts. Wnaeth e ddim. Ymunwch ag e wrth iddo geisio dod o hyd i gariad yn ei 30au, gwirioni dros Le Creuset a chadw at drefn gofal croen 12-cam, i gyd wrth weithio’n galed iawn i adlewyrchu cariad a goleuni.

Gyda’r Rolling Stone wedi’i ddisgrifio fel digrifwr ‘hynod ddoniol a naturiol garismatig,’ mae Daniel, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith stand-yp, yn fwyaf adnabyddus am ei fideos comedi firol sy’n cael eu mwynhau ar-lein gan filiynau o fenywod a phobl hoyw.

Aeth ei sioe gyntaf, Villain, ar daith ryngwladol, gan gynnwys perfformio i theatr lawn yn SoHo Playhouse, Efrog Newydd ac yn y Clapham Grand, Llundain. Mae e’n cyflwyno’r podlediad Welcome To Hell ar y cyd â’i gyd-gomedïwr Dane Buckley, gyda’r podlediad wedi cyrraedd y 10 uchaf ar restrau comedi Apple a Spotify. Fe hefyd yw awdur y llyfr llwyddiannus, Bedtime Stories for Privileged Children.

‘Utterly hilarious and effortlessly charismatic’ ★★★★★ Rolling Stone
‘Relentlessly hilarious’ ★★★★★ Broadway World
‘A supremely gifted comic’ ★★★★★ North West End UK
★★★★ The Scotsman
★★★★ The List