Chumps Comedy yn cyflwyno

Dan Schreiber: This Changes Everything

Comedi

Adolygiad

17 Hyd 2026
7.30pm

Prisiau

£21

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
Gwybodaeth Pwysig

14+

Yn ‘This Changes Everything,’ mae Dan Schreiber (cyflwynydd y podlediad ‘No Such Thing As A Fish’ gan QI ac awdur arobryn ‘The Theory Of Everything Else’) yn cyflwyno noson o ffeithiau rhyfeddol a straeon doniol, wrth iddo arddangos canfyddiadau ei ymchwiliad diweddaraf o ryfeddodau’r byd.

Pa ddiwydiant gwerth biliwn o ddoleri cafodd ei greu gan feddyg marw yn ystod seans? Pa seren Hollywood, yn ôl bob sôn, oedd â blaengroen hudolus? Sut mae cael mynediad at gymdeithas gyfrinachol fwyaf cyfrinachol y byd? A sut mae popeth yn cysylltu â’i gilydd?

Gan droedio rhwng ystyr a diystyr, mae Schreiber yn neidio i ganol y straeon mwyaf doniol, rhyfedd ac anghredadwy na glywsoch chi erioed amdanynt, a rheiny’n straeon gwir bob gair.

Mae Dan Schreiber yn gyd-gyflwynydd ar bodlediad llwyddiannus QI, No Such Thing As A Fish (“Doniol. Amgen. Arbennig.” Tim Minchin) ac awdur llwyddiannus y llyfr The Theory of Everything Else (“Llwyr fachog ac yn gwbl ryfeddol.” Louis Theroux).