Count Arthur Strong…And It’s Goodnight From Him

Theatr
Archive

Adolygiad

28 Chwe
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: 110 munud (yn cynnwys egwyl)
  • Gofod: Y Brif Theatr

Rhan gyntaf taith ffarwel Count Arthur Strong. (Ffarwelio â’r Byd. O bosib. (Jersey yn sicr).

Ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr gorau Harley Street, Brigâd Jombulance St Anne a’r Athro Twitty, yr un oedd yn rhan o cofid, (yr un moel), mae Count Arthur Strong wedi penderfynu cyflwyno ei daith ffarwelio yn raddol, mewn nifer o rannau, oherwydd y perygl o fynd ‘cold turkey’. Er fod y Count yn bersonol yn mwynhau ychydig o dwrci oer, nid yw’n dderbyniol yn y rhan fwyaf o theatrau, ac eithrio yn y gogledd ddwyrain, rhag ofn i’r twrci gael ei sathru i mewn i’r carpedi ayyb, ac o ganlyniad, byddai arogl cynyddol. Byddai’r rheolwyr yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ar y mater hwn.