StammerMouth

CHOO CHOO!

Theatr
Archive

Adolygiad

19 - 22 Gorff
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 1 awr
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys iaith gref a chyfranogiad o’r gynulleidfa (bydd bathodynnau optio allan ar gael), gyda chyfeiriadau i feddyliau ymwthiol, OCD, rhyw, marwolaeth, halogiad, trais a hunanlladdiad, a darluniau o fygythiad o drais ac arfau ar y llwyfan.

CHOO CHOO! (Or... Have You Ever Thought About ****** **** *****? (Cos I Have))

Ewch ar daith gyda ‘CHOO CHOO!’ i feddwl sy’n gwrthod chwarae’n neis.

Beth os nei di frifo Duncan? Beth os nes di? Dwi’n siŵr y gallet ti. Dwi’n siŵr y gallet ti ‘neud. Dwi’n siŵr y byddi di yn.

Mae’r perfformiad dylanwadol hwn yn rhoi cipolwg gwirion a swreal ar anhwylder gorfodaeth obsesiynol, sy’n hynod o ddoniol ag yr un mor deimladwy. Mae CHOO CHOO! yn sioe am gyflwr sy’n cael ei gamddeall, wedi’i hadrodd gan bobl sy’n deall ychydig amdano.

Bydd yna Taith Cyffwrdd ar gael cyn pob perfformiad.

Dehongliad BSL gan Laura Goulden (19 – 21 Gorff) a Stephen Brattan-Wilson (22 Gorff).

StammerMouth
Mae StammerMouth yn gwmni theatr arobryn Brydeinig, a grëwyd gan Nye Russell-Thompson. Ganed ei ffugenw StammerMouth o’r rheidrwydd i bobl ddeall sut deimlad yw cael atal dweud, trwy gwyro ag hiwmor hunanymwybodol, minimaliaeth lom, a chyfranogiad y gynulleidfa (mae’n hoff o wneud i chi deimlo mor anghyfforddus a deimlodd e yn ifanc). Mae StammerMouth yn defnyddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd i ymgorffori hygyrchedd fel arf greadigol gynhenid, megis Iaith Arwyddion Prydain, Lleferydd-i-Destun a Disgrifiad Sain. Mae StammerMouth ar flaen y gad ym myd theatr gyfoes, gan gydweithio gyda gweithwyr llawrydd proffesiynol i greu gwaith sy’n siarad am bynciau sy’n anodd trafod.