Little Wander mewn cydweithrediad gyda PBJ Management yn cyflwyno

Bridget Christie: Who Am I?

Comedi
Archive

Adolygiad

20 Medi 2023
8.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Hyd: Tua 1 awr 50 munud yn cynnwys egwyl
  • Gofod: Y Prif Dŷ
Gwybodaeth Pwysig

14+

Sioe newydd sbon gan enillydd y Rose d’Or a’r South Bank Sky Arts Award, seren ei sioe Netflix ei hun, ffefryn Taskmaster, comedi Channel 4 The Change a chyfresi BBC Radio 4 Bridget Christie Minds the Gap a Mortal.

Mae Bridget Christie yn boeth, ond nid mewn ffordd dda. Mae’r ddigrifwraig stand-yp 51 oed wedi derbyn canmoliaeth fawr gan adolygwyr, ond mae hi’n gollwng gwaed, yn chwysu, ac yn credu fod The Rock yr un person a Chris Rock. Er ei bod wedi ennill Gwobr Gomedi Foster’s Caeredin, nid yw’n gallu reidio’r beic modur a brynodd i frwydro yn erbyn ei hargyfwng canol oed oherwydd osteoarthritis cynnar yn ei chluniau ac Anaf Straen Ailadroddus yn ei garddwrn; ac mae hi’n pendroni pam fod cymaint o ffilmiau, wedi’u gwneud gan ddynion, yn sôn am ferched ifanc yn darganfod eu rhywioldeb, ond byth am ferched canol oed yn anghofio amdano. Mae llawer o sôn am y menopôs a llawer o chwerthin gyda dynes ddryslyd, gynddeiriog, chwyslyd sy’n cael ei chythruddo gan bopeth.

Bydd y perfformiad yma gyda capsiynau gan Claire Hill.

Llun gan: Natasha Pszenicki