Dewch i weld ein sioe Gymraeg hudolus i blant 3 – 6 oed ar draws Gogledd a Gorllewin Cymru ym mis Ionawr.
Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig pan wyt ti’n dywysoges! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn.
Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl, mae’r hyfryd Biwti a Brogs gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
Biwti a Brogs – Pecyn Adnoddau
Mae Biwti a Brogs yn cael ei pherfformio yn yr iaith Gymraeg. Daliwch ef yn:
Galeri Caernarfon, 20 Ion 2026, 11am, 1pm a 5pm