Ar alw: Y Coblynnod a’r Crydd

Crëwyd yn y Sherman

Ysgrifennwyd gan Katherine Chandler

Cyfarwyddwyd gan Sara Lloyd

Archive

Adolygiad

Ar gael o 20 Rhag 2021 - 8 Ion 2022
Ar alw

Hwyl a hud ar gyfer rhai rhwng 3 a 6 oed, ar-lein ac ar alw.

Mae ein addasiad newydd hudolus o’r stori dylwyth teg glasurol, Y Coblynnod a’r Crydd, wedi plesio cynulleidfa ieuengaf y Sherman y Nadolig hwn.

Nawr, gallwch chi rannu llawenydd y theatr yn eich cartref gydag aelodau ifanc eich teulu gyda’n cynhyrchiad ar-lein arbennig, sy’n ddim ond awr o hyd. Rydym yn addo y bydd digon o ganu a bloeddio wrth i chi fynd ar antur gyda Clara’r Crydd, Beth Goblyn a Cwbwl Goblyn .

Mae The Elves and the Shoemaker hefyd ar gael yn Saesneg.

Ar gael ar alw, unrhyw bryd tan 11yh Ionawr 8 2022.

Sut i wylio
Archebwch ar-lein gan ddefnyddio’r botwm uchod.
Ar ôl i chi brynu’r sioe, cewch eich ailgyfeirio i’r fideo.
Gallwch fewngofnodi i wylio’r sioe ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae’r sioe ar gael i’w ffrydio ar-lein tan 11yh Ionawr 8 2022.