A hithau newydd serennu yng nghyfres ddiweddaraf Taskmaster, daw Ania Magliano (Live At The Apollo, Enwebai Gwobr Sioe Newydd Edinburgh Comedy) â sioe newydd sbon yn llawn jôcs, cyffesion, ac ambell i arsylwad gwallgof i ganolfannau ledled y DU.
O gwirciau ei chorff ei hun i chwedl Efa (ie, hi o stori Adda ac..), i’r ffiniau personol y mae hi newydd eu darganfod, Peach Fuzz yw sioe fwyaf perthnasol Ania, a’r un fwyaf doniol.
Mae Ania wedi agor sioeau Ed Gamble, Marc Maron a Catherine Cohen, ac yn ysgrifennu ar gyfer Chicken Shop Dates Amelia Dimoldenberg. Mae ei dewisiadau ar bodlediad Off Menu yn cael eu cydnabod yn eang ymhlith y gwaethaf erioed.