Sioe stand-yp newydd sbon gan Angela Barnes, seren Mock The Week a Live at The Apollo.
Mae Angela yn un sy’n gofidio. Beth bynnag a ddaw, poeni bydd hi amdano. Ond peidiwch â gadael hyn i’ch poeni chi – bydd hi’n poeni digon am y ddau ohonoch.
Mae’r sioe ddigri hon yn cynnwys ambell stori o lwyddiant a rhesymeg gadarn, ond yn bennaf mae’n cynnwys straeon am fethiant llwyr, diffyg doethineb, peth Almaeneg a llwyth o jôcs.
Yn gomedïwr arobryn, cafodd Angela ganmoliaeth feirniadol ar ei thaith ddiwethaf Hot Mess, a gafodd hefyd ei ffilmio fel rhaglen arbennig sydd ar gael ar ITVX. Mae Angela hefyd wedi ymddangos ar 8 Out of 10 Cats Does Countdown ar Channel 4, House of Games y BBC ac yn westai rheolaidd ar The News Quiz ar Radio 4. Mae Angela hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad ddigri hanesyddol poblogaidd We Are History.