Andy Zaltzman: Satirist for Hire

Comedi
Archive

Adolygiad

24 Ion
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Iaith: Saesneg
  • Hyd: 1 awr 45 munud

Trefnwyd y sioe hon yn wreiddiol ar gyfer 17 Tachwedd 2022.

Mae Andy Zaltzman, cadeirydd The News Quiz (Radio 4), cyflwynydd y podlediad dychanol poblogaidd The Bugle, ac ystadegydd Test Match Special, yn dychwelyd gyda’i sioe stand-yp ryngweithiol heb ei hail.

Mae Andy’n gwahodd aelodau’r gynulleidfa i gyflwyno testunau, materion a chwynion amrywiol cyn y sioe er mwyn iddo allu dychanu’n berthnasol i’w gynulleidfa, ac mae hyn yn golygu fod pob sioe yn unigryw. Mae’n cwmpasu popeth o straeon gwleidyddol pwysig i fân gwynion personol, a hyn oll yn cael ei gyflwyno gan un o brif ddigrifwyr gwleidyddol Prydain.

Cyflwynwch gomisiwn dychanol ymlaen llaw ar unrhyw bwnc yn y bydysawd gynyddol chwerthinllyd hwn, i satirisethis@satiristforhire.com. Cofiwch gynnwys dyddiad y sioe y byddwch yn ei mynychu, ynghyd â manylion y mater/person/cysyniad/peth yr hoffech i Andy ei ddychanu, ac unrhyw ddeunydd ategol perthnasol.

Mae Andy Zaltzman yn ddigrifwr a darlledwr stand-yp, sydd wedi sefydlu ei hun yn gadarn ar flaen y gad ym myd comedi Prydeinig gyda’i ddychanu gwleidyddol dyfeisgar ac unigryw. Mae Andy yn perfformio’n rheolaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, ac wedi perfformio ar draws y byd, gan gynnwys teithiau o amgylch Gogledd America, Awstralia ac India.

Ef yw cyflwynydd The Bugle, un o’r podlediadau comedi mwyaf llwyddiannus a hirhoedlog yn y byd, ac mae wedi bod yn bresenoldeb cyson ar Radio 4 dros y ddau ddegawd diwethaf. Ers 2020, mae wedi cadeirio The News Quiz, ac mae wedi bod yn rhan annatod o dîm Test Match Special ers 2016.

Mae’r sioe wedi cael ei aildrefnu i 24 Ionawr 2023.