Mae Andy Zaltzman yn dychwelyd gyda’i adolygiad stand-yp o'r flwyddyn fyd-eang
Yn dilyn taith ei sioe The Zaltgeist a werthodd bob tocyn, bydd Andy, yn ei arddull gomedi unigryw, yn asesu cyflwr ein planed fyd-enwog ar ddiwedd blwyddyn arall sydd wedi bod yn rhyfedd ar y naw.
Mae Andy Zaltzman – cyflwynydd The News Quiz a phodlediad The Bugle, ystadegydd ar Test Match Special, pencampwr cyfres 18 Taskmaster – yn dychwelyd. Am y tro cyntaf yn y degawd yma, daw Andy â’i adolygiad stand-yp o’r flwyddyn fyd-eang.
Byddai hyd yn oed cefnogwyr mwyaf brwd 2026 yn cyfaddef bod hi’n flwyddyn sydd ymhell o fod yn berffaith, hyd yn oed yng nghyd-destun y degawd gwirion bost diwethaf. Mae dynoliaeth wedi edrych yn agos ar Ddeallusrwydd Artiffisial, gan feddwl tybed yw e eisoes wedi ein bwyta ni. Ledled y byd, mae argyfyngau dirfodol wedi dod yn ategolion angenrheidiol ar gyfer cenhedloedd, ffurfiau celf, chwaraeon a rhywogaethau.
Bydd Andy yn ceisio defnyddio technolegau modern a hynafol i ddod o hyd i dameidiau o obaith go iawn unrhyw le ymhlith y grochan o groesineb, cyn i 2026 gael ei thraddodi i’r llyfrau hanes, lle mae’n perthyn.
“Zaltzman is a master of lacerating satire mixed with extreme silliness” – The Mail On Sunday
“So sharp you can cut a diamond with it” – Evening Standard
“Properly funny… a true original and a true delight” – The Times