An Evening and a Little Bit of a Morning with Mark Steel

Comedi
Archive

Adolygiad

19 Mai
8:00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Prif Dy
  • Hyd: 90 munud yn cynnwys egwyl
Rhybuddion Cynnwys Cynulleidfa:

14+ yn unig

Mi fydd plant yn iau na hyn ddim yn cael ei gadael mewn hyd yn oed os yng nghwmni oedolyn.
Debygol o cynnwys rhegi a cynnwys oedolion,

Mae cymaint o bethau i weiddi amdanyn nhw. Yn y byd modern rwyt ti’n treulio cymaint o amser yn ceisio deall sut mae iTunes yn gweithio, mi fyddai’n haws ffurfio band a dysgu’r caneuon.

Ond mae cymaint i fod yn hapus yn ei gylch hefyd. Fel y ffaith fod pawb yn Northampton yn gwybod am yr arwydd sy’n dweud ‘Family Planning Advice – Use Rear Entrance’.

Ac yna mae’r stori wallgof am gael fy magu ar stryd dosbarth gweithiol yng Nghaint, a darganfod bod fy nhad naturiol yn chwaraewr tawlfwrdd oedd yn filiwnydd ac yn ffrindiau gorau gyda’r Arglwydd Lucan.

Rwyf wedi dod i delerau â’r ffaith fy mod yn llawn gwrthddadleuon, yn ceisio aros yn ifanc tra’n methu mewngofnodi i unrhyw wefan. Rwy’n ceisio bod yn barchus ac yn boblogaidd (bydd hyd yn oed piano ac ychydig o ganu yn y sioe hon), hyd nes ‘mod i methu stopio fy hun rhag dechrau rhefru a rhuo am rhywbeth a allai olygu cael fy rhoi dan glo, pe na bawn i ar lwyfan.

A gan mai sioe stand-yp yw hon, bydd beth bynnag sydd wedi digwydd yn yr ystafell, yn y dref neu yn y byd y diwrnod hwnnw bron yn sicr o ymddangos yn y sioe.

Felly, fe wnai geisio peidio mynd ‘mlaen yn rhy hir, ond gallai’n hawdd fod y noson ddim yn dod i ben tan y diwrnod canlynol.

Fe dderbyniodd y sioe gomedi Mark Steel’s in Town ganmoliaeth enfawr ac fe’i pleidleisiwyd fel y 6ed comedi radio gorau erioed. Mae Mark wedi ymddangos yn rheolaidd ar Have I Got News For You a QI ar gyfer y BBC a News Quiz ar BBCR4. Mae wedi cael ei enwi’n golofnydd papur newydd y flwyddyn ac mae’n awdur y llyfr llafar arobryn Who Do I Think I Am.