Plosive Live mewn cydweithrediad ag United Agents yn cyflwyno

Amy Gledhill: Thanks For Having Me

Comedi

Adolygiad

8 Mai 2027
7.30yh

Prisiau

£22.50

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Canllaw oedran: 14+. Yn cynnwys iaith gref.



Mae Amy Gledhill wedi ymddangos ar rai o sioeau comedi enwocaf y teledu, wedi ennill y wobr fwyaf mawreddog ym maes comedi byw, AC wedi serennu mewn blocbyster Netflix. Felly, pam na all hi ddod i ben â chael un dêt, rhyngweithiad neu drip llwyddiannus i’r sba? (Mae hi bellach wedi’i gwahardd).

Ymunwch â chyn-gystadleuydd Taskmaster, derbynnydd y cerdyn coch creulonaf ar Last One Laughing, a chyd-gyflwynydd y podlediadau poblogaidd Single Ladies In Your Area a Northern News, ar ei thaith stand-yp newydd sbon, wrth i Amy Gledhill ddweud Thanks For Having Me wrth gynulleidfaoedd ledled y wlad. 

Enillodd Amy Wobr Gomedi Caeredin 2024, ac mae ganddi dri enwebiad ar gyfer y wobr honno. Mae hi hefyd wedi’i henwebu am Wobr Gomedi Genedlaethol, ac mae hi’n 1/3 o’r ddeuawd boblogaidd The Delightful Sausage. 

 Mae hi hefyd wedi ymddangos ar Live at the Apollo (BBC), Would I Lie To You? (BBC), The Jonathan Ross Show (ITV), Never Mind The Buzzcocks (Sky), Run Away (Netflix), Alma’s Not Normal (BBC) ac 8 Out of 10 Cats Does Countdown (C4). 

 “Destined for greatness” ★★★★★ The Independent

“Jaw-droppingly good” ★★★★ The Times

★★★★★ The Daily Telegraph

★★★★ The Guardian