Adam Frost

Teulu

Adolygiad

5 Maw 2026
7.30yh

Prisiau

£25 - £37

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Mae’r dylunydd gerddi arobryn o Brydain a chyflwynydd BBC Gardeners’ World, Adam Frost, yn gadael yr ardd ac yn mynd ‘nôl ar daith!

Yn ei sioe fwyaf personol erioed, bydd Adam yn trafod y planhigion sydd wedi siapio ei fywyd ac yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi ei dywys i ble mae e nawr. Bydd yn datgelu’r ysbrydoliaeth y mae wedi’i ddarganfod trwy fywyd yn yr ardd, y bobl y mae wedi cwrdd â nhw ar hyd y ffordd, y gerddoriaeth sydd wedi llywio ei daith a pham ei fod yn uniaethu fel ‘hen ffŵl rhamantus’.

Bydd Adam yn rhannu straeon nad yw wedi eu hadrodd o’r blaen am sut mae ei angerdd am blanhigion wedi mynd ag ef o amgylch y byd a’i herio gyda phrofiadau annisgwyl – o guradu gardd yn Japan yn ystod monsŵn i gwrdd ag arwyr.

Yn agosach at adref, mae garddio yn sylfaenol i ymdeimlad Adam o deulu, lles a gwella. Ym mis Medi 2021, cafodd ei hun yn ymdopi â chreithiau meddyliol y pandemig ac yn wynebu symud tŷ (neu’n bwysicach fyth, symud gardd) arwyddocaol. Bydd yn siarad am lywio’r newid hwnnw ac ailgysylltu â natur.

Bydd Adam hefyd yn edrych ar y weithred greadigol o roi gardd at ei gilydd a sut y bu’n rhaid iddo ddysgu cofleidio ei ochr artistig. Peidiwch â cholli’ch cyfle i glywed hanesion doniol a myfyrdodau ingol Adam, ac i ymgolli nid yn unig mewn garddio, ond yn y natur ddynol a gwallgofrwydd y cyfan.