Ar alw: A Christmas Carol

Crëwyd yn y Sherman

Ysgrifennwyd gan Gary Owen

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Archive

Adolygiad

Ar gael o 20 Rhag 2021 - 8 Ion 2022
Ar alw
Gwybodaeth Pwysig

Nodwch fod A Christmas Carol yn cynnwys goleuadau strôb, tawch a synau uchel.

Profwch ryfeddod Nadoligaidd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol ar-lein ac ar alw.

Dewch ar antur trwy strydoedd Caerdydd yn Oes Fictoria, a hynny o glydwch eich cartref, gyda’n addasiad arbennig o A Christmas Carol sydd ar gael ar alw.

Mae A Christmas Carol wedi’i ffilmio o flaen cynulleidfa fyw yn Theatr y Sherman, ac yn wledd lawen, ddoniol ac ysblennydd, ar gyfer unrhyw un dros 7 oed.

Yn llawn caneuon hudolus, cerddoriaeth fyw a chwerthin mae’r cynhyrchiad clodwiw hwn wedi bod yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd yn y Sherman, a nawr fe allwch chi ei brofi gyda ffrindiau a theulu ble bynnag yr ydych.

Ar gael ar alw, unrhyw bryd tan 11yh Ionawr 8 2022.

Mae fersiynau gyda disgrifiad sain, capsiynau neu ddehongliad BSL ar gael.

Sut i wylio
Archebwch ar-lein gan ddefnyddio’r botwm uchod.
Ar ôl i chi brynu’r sioe, cewch eich ailgyfeirio i’r fideo.
Gallwch fewngofnodi i wylio’r sioe ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Mae’r sioe ar gael i’w ffrydio ar-lein tan 11yh Ionawr 8 2022.