EIN TYMOR 2024

Cyhoeddiadau
Pum drama newydd gan ysgrifenwyr Cymraeg neu o Gymru, yn rhannu straeon de Cymru sy'n adleisio dros y byd, ymhlith tymor 2024 Theatr y Sherman

● Mae ein tymor 2024 yn cynnwys gwaith newydd gan Rhiannon Boyle, Katie Elin-Salt, Matt Hartley, Azuka Oforka a Tim Price
● Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i ardaloedd Cyncoed a’r Sblot yng Nghaerdydd, i gymunedau glofaol cymoedd de Cymru a chyn belled ag ystâd siwgr Llanrhymni yn Jamaica
● Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Iphigenia yn Sblot, addasiad iaith Gymraeg newydd o sioe hynod lwyddiannus Gary Owen, Iphigenia in Splott
● … ac adfywiad o’i sioe Nadolig lwyddiannus 2021 A Christmas Carol
● Daw’r cyhoeddiad heddiw 50 mlynedd i’r diwrnod ers i Theatr y Sherman gael ei hagor yn swyddogol

Rydym heddiw yn cyhoeddi manylion y saith cynhyrchiad, yn cynnwys pum drama newydd sbon, a fydd yn ffurfio tymor 2024 y cwmni.

The Wife of Cyncoed gan Matt Hartley
(7 – 23 Mawrth 2024)
Wedi’i lleoli ym maestrefi Cyncoed a Lakeside yng Nghaerdydd, mae’r fonolog gynnes hon yn cyflwyno Jayne, gwraig sydd newydd ysgaru ac sy’n agosáu at groesffordd yn ei bywyd. Wedi’i chyfarwyddo gan Hannah Noone, mae hon yn stori am hunan-ddarganfyddiad ac ail gyfle, yn llawn o ddynoliaeth.

The Women of Llanrumney gan Azuka Oforka
(16 Mai – 1 Mehefin 2024)
Drama hanesyddol ddirdynnol sy’n wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru yn uniongyrchol, mae’r gwaith newydd beiddgar hwn wedi’i leoli mewn stad siwgr yn Jamaica, lle mae Cerys a’i mam Annie wedi’u caethiwo gan y teulu Morgan Cymreig cyfoethog. Fe’i hysgrifennwyd gan Azuka Oforka, cyn-fyfyriwr rhaglen datblygu artistiaid Unheard Voices Theatr y Sherman yn 2022, a bydd yn cael ei gyfarwyddo gan Artist Cyswllt Theatr y Sherman Patricia Logue (Lose Yourself, Theatr y Sherman, 2019).

Couple Goals (teitl gwaith) gan Rhiannon Boyle
(Mai 2024 – union ddyddiadau i’w cadarnhau)
Hwn fydd nawfed cydweithrediad Theatr y Sherman gyda’i chymdogion cyfagos, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a dyma gomisiwn y cwmni yn 2024 ar gyfer gŵyl NEWYDD y coleg.

Iphigenia yn Sblot gan Gary Owen
(Awst-Medi 2024 – union ddyddiadau i’w cadarnhau)
Caiff drama un-fenyw ryngwladol arobryn Gary Owen chwa o awyr iach yn addasiad Cymraeg newydd Branwen Cennard, a gyfarwyddwyd gan Alice Eklund. Ers ei berfformiad cyntaf yn y Sherman yn 2015, mae Iphigenia in Splott wedi dod yn ffenomen theatrig; drama angerddol, llawn tosturi sy’n adlewyrchiad trist o gyflwr cywilyddus y genedl. Yn dal yn syfrdanol, yn heriol, yn hynod ddynol ac yn ysgytwol o berthnasol, mae’n ddrama sy’n atseinio’n ddwfn.

Odyssey ’84 gan Tim Price
(11 – 26 Hydref 2024)
Wedi’i llwyfannu 40 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984, bydd y ddrama newydd hon a ysgrifennwyd gan un o awduron mwyaf llwyddiannus Cymru yn dilyn hanes pâr priod a gafodd eu dal yn y gwrthdaro, wedi’i hadrodd drwy lens Odyssey Homer. Mae’r domestic yn cyfarfod â’r epig, y lleol â’r byd-eang yn y gwaith newydd uchelgeisiol hwn sy’n taflu goleuni ar rôl merched yn un o benodau mwyaf ffrwydrol yn hanes Cymru. Mi fydd Odyssey ’84 yn cael ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy.

Yr Hugan Fach Goch / Red Riding Hood gan Katie Elin-Salt
(1 – 2 Tach, 25 Tach 2024 – 4 Ion 2025)
Gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru
Yn dilyn traddodiad Theatr y Sherman o lwyfannu fersiynau Cymraeg a Saesneg o sioe Nadoligaidd newydd sbon i blant iau, 3-6 mlwydd oedd, bydd y wledd Nadoligaidd hon yn teithio o amgylch lleoliadau ledled Cymru cyn dychwelyd i Theatr y Sherman am gyfnod o chwe wythnos.

A Christmas Carol gan Gary Owen
(23 Tach 2024 – 4 Ion 2025)
Adfywiad o sioe Nadolig hynod lwyddiannus y cwmni yn 2021 i blant hŷn, gyda Hannah McPake yn serennu fel Ebenezer Scrooge. Mae A Christmas Carol wedi’i hysgrifennu gan un o allforion ysgrifennu dramâu mwyaf adnabyddus Cymru, ac awdur Romeo and Julie, sioe lwyddiannus diweddar y Sherman.

Mae cyhoeddiad y tymor yn cael ei wneud 50 mlynedd i’r diwrnod ers agor Theatr y Sherman yn swyddogol, ddydd Gwener 23 Tachwedd 1973. Mae pob un o’r pum cynhyrchiad newydd nawr ar werth, a hynny am hanner y pris safonol heddiw’n unig, i ddathlu ein hanner canrif.
The Wife of Cyncoed
The Women of Llanrumney
Odyssey ’84
A Christmas Carol
Little Red Riding Hood / Yr Hugan Fach Goch

Dewiswch y math pris ‘Sherman Anniversary 50% off’ pan ydych yn ychwanegu’r tocynnau i’ch basged.

Wrth gyhoeddi’r tymor, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy: “Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i Theatr y Sherman, nid yn unig oherwydd i ni ddathlu carreg filltir sylweddol, ond oherwydd bod ein gwaith i ddyfnhau ac ehangu ein hymgysylltiad â chynulleidfaoedd wedi talu ar ei ganfed. Mae croesawu cynulleidfaoedd, aelodau o’r gymuned ac artistiaid trwy ein drysau mewn niferoedd mor fawr, yn enwedig ar ôl y pandemig, wedi rhoi hwb enfawr i ni.

“Mae hyn, ynghyd â’n fformiwla brofedig o adrodd straeon lleol gyda chyseinedd byd-eang, yn rhoi llwyfan gwych i ni neidio ohono i’r flwyddyn newydd. Dyma bum drama newydd gyffrous – a dau hen ffefryn yn dychwelyd – i godi archwaeth cynulleidfaoedd am theatr wych, sydd mor gryf nawr ag y gwelsom erioed.”