RHAGDDANGOSIADAU YN THEATR Y SHERMAN YNG NGHAERDYDD, CYN Y PERFFORMIADAU YN Y NATIONAL THEATRE YN LLUNDAIN
TOCYNNAU CYFFREDINOL AR WERTH O 10AM DDYDD GWENER 14 TACHWEDD 2025
Mae P&P Productions gyda’r National Theatre, mewn cydweithrediad â Pathé, heddiw yn cyhoeddi dyddiadau ar gyfer Pride, sioe gerdd newydd sbon yn seiliedig ar y ffilm arobryn, yn ailuno’r cyfarwyddwr Matthew Warchus (Matilda The Musical) a’r awdur Stephen Beresford (The Last of the Haussmans). Bydd y stori wir ysbrydoledig hon, a osodwyd yn ystod streic y glowyr ym 1984, pan roddodd grŵp bach o ddynion hoyw a lesbiaid eu cefnogaeth i bentref bach yn ne Cymru, yn dod yn fyw mewn rhagddangosiadau yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd o 31 Mawrth i 18 Ebrill 2026. Yn dilyn rhein, mi fydd perfformiadau yn theatr y Dorfman y National Theatre o 11 Mehefin i 12 Medi 2026,
Yn ddoniol, ffyrnig a llawn calon, bydd gan Pride gerddoriaeth wreiddiol gan Christopher Nightingale (A Christmas Carol), Josh Cohen (Sylvia) a DJ Walde (Sylvia). Mae’r stori amserol ac ysbrydoledig hon am ddigwyddiadau bywyd go iawn, lle unodd dwy gymuned a rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu, wedi’i gosod i sgôr wreiddiol gyda chaneuon wedi’u hysbrydoli gan anthemau protest, pop, roc, disgo a thraddodiad corawl Cymru.
Cast i’w gyhoeddi.
Haf, 1984. Gyda glowyr ar streic ledled y wlad, mae’r ymgyrchydd 24 mlwydd oed Mark Ashton yn ceisio adfyddino criw o ddynion hoyw a lesbiaid annhebygol i ffurfio grŵp i gefnogi’r streicwyr dan warchae. Cyn pen dim, mae aelodau Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) yn dod yn rhan o fywyd pentref bach pwll glo yn ne Cymru.
Yr hyn sy’n dilyn yw stori wir ryfeddol dwy gymuned dan fygythiad yn uno – ac yn darganfod bod ganddyn nhw fwy yn gyffredin nag yr oedden nhw erioed wedi’i ddychmygu.
Mae llyfr a geiriau Pride gan Stephen Beresford, gyda cherddoriaeth gan Christopher Nightingale, Josh Cohen a DJ Walde. Caiff ei datblygu a’i chyfarwyddo gan Matthew Warchus. Mae’r tîm artistig wedi’i gwblhau gan y dylunydd set a gwisgoedd Bunny Christie, y coreograffydd Lizzi Gee, y dylunydd goleuo Hugh Vanstone, y dylunydd sain Bobby Aitken, y goruchwyliwr cerddoriaeth Tom Kelly, y cyfarwyddwr cerddoriaeth Jo Cichonska a’r cyfarwyddwr castio David Grindrod CDG.
Wrth siarad am ddod â Pride i’r llwyfan, dywedodd y Cyfarwyddwr Matthew Warchus:
‘Roedd cyfarwyddo fersiwn ffilm o ‘Pride’ yn un o bleserau a breintiau mwyaf fy ngyrfa. Rydw i mor gyffrous i fod yn gweithio ochr yn ochr â Stephen eto – ynghyd â Chris, Josh a DJ – i ddod â’r stori wir hynod emosiynol ac ysbrydoledig hon i’r llwyfan a gadael iddi ganu.’
Dywedodd yr awdur Stephen Beresford:
‘Roedd yn brofiad anhygoel dod â stori wir ‘Pride’ i’r sgrin, ac mae’r un mor gyffrous dod â hi i’r llwyfan nawr. Roedd natur epig, uchelgeisiol y stori hon yn ymddangos fel pe bai wedi’i theilwra ar gyfer theatr gerdd – ac mae cydweithio â Josh a DJ, ac ailymuno â Matthew a Chris wedi bod yn llawenydd llwyr. Fedra i ddim aros i gynulleidfaoedd ei gweld.’
Wrth siarad am berfformiad cyntaf Pride ar lwyfan Dorfman, dywedodd Cyfarwyddwr y National Theatre, Indhu Rubasingham:
‘Pan glywais fod Matthew a Stephen yn addasu eu ffilm annwyl ‘Pride’ fel sioe gerdd lwyfan, roeddwn i’n gwybod ar unwaith fy mod i eisiau iddi fod yma yn y National Theatre. Mae’r Dorfman yn theatr agos atoch, hyblyg sy’n enwog am ysgrifennu newydd ac am herio disgwyliadau. Bydd première byd-eang ‘Pride’ yn gwthio terfynau’r hyn sy’n bosibl yn y gofod hwn, yn llawen ac yn aflonyddgar. Alla i ddim aros i gynulleidfaoedd brofi ei phŵer.’
Cynhelir rhagddangosiadau o Pride yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd o 31 Mawrth i 18 Ebrill 2026. Yna, bydd perfformiadau yn theatr y Dorfman o 11 Mehefin i 12 Medi 2026, gyda pherfformiad i’r wasg nos Iau 25 Mehefin 2026, am 7pm.
Caiff Pride ei gyflwyno gan P&P Productions gyda’r National Theatre mewn cydweithrediad â Pathé.
Mi fydd archebu cyhoeddus ar gyfer Pride yn agor am 10am ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.nationaltheatre.org.uk. Am ragor o wybodaeth am y rhagddangosiadau, ewch i www.shermantheatre.co.uk/cy.