Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022

Uncategorized @cy
Ar #DRhM2022 rydym yn dathlu rhai o’r merched anhygoel niferus sy’n ymwneud â’r Sherman.

Hannah McPake
Rwyf wedi chwarae llawer o rannau gwrywaidd yn y gorffennol naill ai fel dyn â mwstash ffug neu gymeriad sydd wedi cyfnewid rhyw – i fod yn onest byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o gynyrchiadau wedi’u hysgrifennu a’u harwain gan fenywod, gyda phrif rannau benywaidd yn hytrach na chymeriadau gwrywaidd wedi’u hail-ddychmygu. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r Sherman yn archwilio hyn wrth i ni ail-ddychmygu Tales of The Brothers Grimm.

Y llynedd, fe chwaraeodd Hannah McPake gymeriad Scrooge yng nghynhyrchiad y Sherman o A Christmas Carol, ac mae hi nawr yn rhoi gwedd newydd ar Tales of the Brothers Grimm gyda’i haddasiad o’r straeon tylwyth teg enwog hyn.

E. E. Rhodes
Ychydig flynyddoedd yn ôl fe ddarllenais fod tan-gynrychiolaeth ymhlith merched yn y theatr yn rhemp. Ond pa mor ddrwg y gallai fod? Pa bynnag ffigwr sy’n dod i’ch meddwl, gallaf eich sicrhau ei fod yn is – 36% o gyfarwyddwyr artistig, 33% o staff technegol, 28% o berfformwyr, 25 % o ddramodwyr sydd a’u gwaith yn cael ei berfformio, 10% o adolygwyr, a dim ond 10% o wobrau Olivier!

Roeddwn i’n teimlo’n siomedig nad oedd pethau wedi gwella o gwbwl. Dros y deng mlynedd diwethaf roedd pethau wedi gwaethygu mewn gwirionedd. Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi gwneud pethau hyd yn oed yn waeth – cyllid, hygyrchedd, ceidwaid y pyrth, a safbwyntiau hen ffasiwn am fywydau menywod. Ac os ydych chi’n fenyw sy’n wynebu gwahaniaethu ar seiliau eraill – boed hynny’n rhywioldeb, anabledd, hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, hil, dosbarth, neu oedran – mae’n debygol eich bod ar yr ymylon yn fwy byth.

Mae’n mynd i gymryd ymdrech enfawr i #BreakTheBias. Ond mae’n rhaid i newid ddod o rywle, ac mae rhai theatrau, fel y Sherman, yn barod i sefyll i fyny a chodi llais.

Awdur sy’n byw yng Nghaerdydd yw E. E. Rhodes. 25 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio ym myd y theatr, ac fe fu bron i’r profiad hwnnw ei hatal am oes, ond erbyn hyn mae’n rhan o raglen Lleisiau Nas Clywir yn Theatr y Sherman. “Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw croeso cynnes (a’r holl fuddsoddiad sy’n sail iddo) er mwyn dod â phobl i mewn.”

Fosia Ibrahim
Roedd gen i gysylltiad a Sherman 5 trwy ffrind a dehonglydd. Sylweddolais fod y profiadau yn bleserus, yn hygyrch ac yn fforddiadwy. Ers hynny nid wyf wedi edrych yn ôl, ac roeddwn i hefyd yn arfer arwyddo cyhoeddiadau ar gyfer sioeau i Sherman 5.
Mae Fosia yn aelod o Sherman 5 ac yn aelod o’n Clwb Byddar y Theatr.

Tijesunimi Oluwapelumi Olakojo
Fy enw i yw Tijesunimi Oluwapelumi Olakojo. Dechreuais ymwneud â Theatr y Sherman drwy Oasis Caerdydd; elusen sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd.

I ddechrau, fe wnes i gymryd rhan fel aelod o grŵp ymgynghori drwy gynrychioli ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Wedi hynny, roedd gen i fwy o ddiddordeb yn y sefydliad, felly penderfynais ddod yn aelod o Sherman 5 ac yn wirfoddolwr. Fe ddangosodd hynny i mi yr ystod eang o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd trwy weithdai a chyrsiau hyfforddi, oedd yn cynnwys bod yn rhan o’r Sherman Players; grŵp theatr cyfeillgar, hwyliog a chroesawgar i bawb dros 18 oed i ddysgu am greu theatr trwy actio, ysgrifennu sgriptiau a dylunio.

Yn fyr, mae fy nghysylltiad â chymuned y Sherman wedi bod yn gyffrous, yn llawn hwyl, ac wedi fy nghyflwyno i fwy o bobl a ffrindiau sydd hefyd wedi fy helpu i fagu mwy o hyder.

‘I am the dream and the hope of the slave.
I rise
I rise
I rise’
Maya Angelou”

Helen Byrne
Rwyf bellach yn aelod o’r Sherman Scribblers ar ôl ysgrifennu ‘Llythyr Caru at Gaerdydd’ yn 2020. Er mawr syndod i mi, fe gyhoeddwyd fy llythyr. Pwy fyddai eisiau clywed yr hyn oedd gan fenyw 50 oed i’w ddweud? Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, ac o fy mhrofiad i mae Caerdydd yn ddinas groesawgar sy’n llawn pobl o gymaint o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol. Yr her yw sicrhau bod hynny’n parhau, ac nad ydym yn caniatáu i ragfarn ddod yn rhan o bwy ydym ni.

Ers ymuno â’r Scribblers rydw i wedi bod yn dysgu am ysgrifennu ar gyfer y theatr, ac wedi gweld bod gen i rywbeth i’w ddweud, a bod rhywun eisiau gwrando. Mae theatr wedi fy helpu. Roedd rhywun yn credu ynof. Rwyf nawr yn bwriadu ymchwilio i ferched Cymreig sydd wedi mynd yn angof, neu rhai nad yw eu stori wedi ei hadrodd eto.

Wrth adrodd eu stori rwy’n gobeithio dangos sut wnaethon nhw herio cymdeithas a’i disgwyliadau o ferched, a sut y gwnaeth hynny gyfoethogi bywydau eraill. Rhaid inni ddryllio rhagfarn ynghylch menywod, ac rwyf am gyfrannu at hynny. Bydd y theatr yn rhoi llais i mi wneud hyn. Po fwyaf y byddwn yn ei ddeall am y menywod wnaeth greu newidiadau, y mwyaf y gallwn osod ein hunain ochr yn ochr â nhw, a newid ein dirnadaeth o fenywod. Rwyf am roi llais i’r merched hyn, er mwyn i bob cenhedlaeth eu clywed.

Angharad Tudor
Daeth fy mhrofiad o ddod yn rhiant sengl i faban newydd-anedig yn ystod pandemig byd-eang yn gatalydd i mi ddatblygu darn theatr dychanol yn seiliedig ar yr anghyfartaledd ym maes iechyd meddwl i famau; gan fy annog i estyn allan at famau o genedlaethau gwahanol o fewn fy nghymuned yng Ngorllewin Cymru; rhannu profiadau personol o fod wedi fy ynysu’n feddyliol, pwysau cymdeithasol a cholli hunaniaeth.

Fel awdur ar ddechrau fy ngyrfa mae wedi fy ysgogi i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu awduron benywaidd sy’n famau ac ystyried pam fod angen i’r celfyddydau byw yng Nghymru wneud mwy i ddarparu ar gyfer rhieni newydd, fel nad ydym yn gweld awduron, gwneuthurwyr theatr, cerddorion a digrifwyr talentog yn rhoi’r gorau i’w gyrfaoedd. Mae mor ysbrydoledig gweld cynnydd mewn digwyddiadau comedi yn ystod y dydd, a mwy o gwmnïau theatr yn addasu eu hamseroedd perfformio er mwyn gwneud lle i fabanod a phramiau.

Mae Angharad yn rhan o raglen Lleisiau Nas Clywir yn Theatr y Sherman

Mandy Ivory-Castile
Rwy’n ceisio arwain Adran Gynhyrchu’r Sherman gyda thosturi a chreu amgylchedd lle mae siarad a gwrando yn cael ei ddathlu. Rwy’n gofalu am fy nhîm a’r bobl o’m cwmpas er mwyn dangos fod modd adeiladu a chreu gwaith theatr rhagorol, wedi’i gynhyrchu o’r galon.