Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Crewyr Theatr
Bod yn Asiant dros Newid yn Theatr y Sherman gan Jonny Cotsen

Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl yn rhoi eiliad i mi oedi. I anadlu. I edrych yn ôl ar y flwyddyn a meddwl am yr hyn sydd wedi newid, yr hyn sydd heb newid, a beth rydyn ni’n dal i frwydro drosto.

Eleni, mae’r myfyrdod hwnnw’n teimlo’n wahanol. Oherwydd am y tro cyntaf, rwy’n myfyrio fel rhywun sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Theatr y Sherman fel Asiant dros Newid, teitl sy’n swnio’n fawr ac yn feiddgar, ond i mi, mae’n golygu rhywbeth syml iawn: bod yn bresennol, bod yn fi fy hun, bob dydd, a helpu i greu gofod lle gall eraill wneud yr un peth.

Weithiau nid y mentrau enfawr na chyflwyno areithiau pwysig sy’n cyfri, gan mai yn yr eiliadau bach bob dydd y mae’r rhan fwyaf o’r newid go iawn yn digwydd. Megis y sgwrs yn y coridor neu pan fydd aelod o staff y Sherman yn gofyn i mi yn y lifft “sut i arwyddo ‘croeso i Theatr y Sherman’ mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)?” Neu efallai’r e-bost gan aelod o’r tîm sy’n gofyn i mi “Allwch chi wirio a yw hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain?”

Mae e yn y rhyddhad ar wyneb rhywun pan fyddant yn sylweddoli eu bod yn cael gofyn cwestiynau am ddiwylliant Byddar heb ofn ei gael yn anghywir.
Mae’r eiliadau hynny’n gwneud i mi feddwl: mae hyn yn gweithio. Rwy’n falch iawn o roi arwydd-enw i mi fy hun, sef arwydd gwn eiconig James Bond a welwn yn aml ym mhosteri’r ffilm. Mae e’n asiant cŵl iawn ac yn gwneud pethau beiddgar a dyna sut rwy’n teimlo am y swydd hon. Er nad ydw i mor olygus â James Bond!
Un o’r pethau ddaeth â mwyaf o foddhad i mi eleni oedd sefydlu Clwb Theatr Fyddar.

Fe ddechreuodd hyn fel syniad syml – dod â chynulleidfaoedd Byddar at ei gilydd i fwynhau theatr sydd yn gwbl hygyrch, ac mae e wedi tyfu i fod yn rhywbeth cynnes a chymunedol iawn. Mae yna rywbeth arbennig am weld grŵp o bobl Fyddar yn cyrraedd y theatr gan wybod bod y lle gwirioneddol iddyn nhw. A gwybod nad yw’r dehonglydd BSL wedi’i benodi ar y funud olaf. Gwybod na fydd yn rhaid iddyn nhw straenio na ddyfalu nac esgus.

Mae’n ein hatgoffa nad yw mynediad yn “wasanaeth”.

Mae’n perthyn.
Mae’n gymuned.
Mae’n llawenydd.
Mae’n ddiwylliant.

Rhan arall o’r rôl hon sy’n golygu llawer i mi yw cyflwyno Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Byddar ac Iaith Arwyddion Prydain i dîm y Sherman.

Rydw i wedi gweld gwên yn codi ar wynebau pan fydd pobl yn dysgu eu harwydd cyntaf. Rydw i wedi gwylio gweithwyr creadigol yn sylweddoli’n sydyn pa mor gliriach yw eu cyfathrebu pan fyddant yn arafu, yn wynebu’r person maen nhw’n siarad ag ef, neu’n defnyddio ystum yn fwriadol.

Ac efallai fy hoff ran: yr eiliad pan fydd rhywun wir yn deall. Nid yn unig y “sut”, ond y “pam”.

Pan fyddant yn deall nad blwch i’w ticio mo hygyrchedd – mae’n newid o ran ffordd o feddwl, newid mewn agwedd, newid yn y ffordd rydyn ni’n gwneud lle i’n gilydd.

Yn Theatr y Sherman, credwn fod theatr yn perthyn i bawb felly dyna pam y gwnaethom sefydlu Sherman Makers. Mae Sherman Makers yn grŵp theatr cymunedol newydd sydd wedi’i gynllunio i ddathlu creadigrwydd, cysylltiad, ac i greu theatr sydd yn wirioneddol hygyrch. Mae’n cynnig gofod cefnogol, diogel a chynhwysol lle gallwn greu theatr, datblygu sgiliau, magu hyder, a gweithio ochr yn ochr ag eraill sy’n rhannu ein hangerdd dros gynhwysiant a mynediad. Bydd hyn yn dechrau ddiwedd mis Ionawr 2026 ac rydym yn edrych ymlaen yn arw.

Rwy’n cael fy atgoffa’n gyson nad yw newid yn digwydd oherwydd ein bod ni’n ei gynllunio. Mae’n digwydd oherwydd bod pobl yn barod i wrando, addasu a rhoi cynnig arall pan fyddant yn ei gael yn anghywir.

Mae Theatr y Sherman wedi bod yn gwneud y gwaith hwnnw. Wedi bod yn gofyn y cwestiynau lletchwith, yn ailfeddwl hen arferion, ac yn gwneud lle i ffyrdd newydd o weithio.

Ac fel rhywun a dreuliodd lawer gormod o fy mywyd yn teimlo fel ôl-ystyriaeth, mae’r newid hwnnw’n bwerus.

Nid diwrnod ymwybyddiaeth arall i mi yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Mae’n fy atgoffa bod pobl Fyddar a phobl anabl yn dal i wthio yn erbyn rhwystrau – rhai gweladwy, llawer anweledig a’n bod ni’n haeddu mannau lle nad yw ein creadigrwydd yn cael ei grebachu oherwydd y ffordd y mae’r byd wedi’i adeiladu.

Nid yw fy rôl yn y Sherman yn ymwneud â mynediad yn unig.
Mae’n ymwneud ag urddas.
Mae’n ymwneud â chynrychiolaeth.
Mae’n ymwneud â rhoi lle i leisiau Byddar ac anabl, nid yn unig yn yr ystafell, ond yng nghanol y sgwrs.
Oherwydd pan rydyn ni yn y canol, mae’r straeon yn newid.
Mae’r diwylliant yn newid.
Mae’r theatr yn newid.
Rwy’n gwybod bod cymaint mwy i’w wneud o hyd ac ni fyddaf yn esgus fel arall ond rwy’n teimlo’n obeithiol. Rwy’n teimlo’n falch. Ac rwy’n teimlo’n hynod lwcus i fod yn rhan o theatr sydd nid yn unig yn dweud ei bod eisiau gwella mynediad, ond wirioneddol yn cymryd camau, yn dysgu, yn ymestyn, yn baglu weithiau, ond bob amser yn symud ymlaen.
Nid yw newid yn digwydd dros nos.
Ond mae’n digwydd.
Ac rwy’n falch fy mod i’n chwarae rhan fach yn helpu i’w siapio.