Cyhoeddi Cast Nadolig

Cyhoeddi’r cast a’r timau creadigol llawn ar gyfer A Christmas Carol ac Y Coblynnod a'r Crydd / The Elves and the Shoemaker

Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod arbennig yn Theatr y Sherman. Gan nad oedd modd i ni gynnal perfformiadau byw yn 2020, mae Nadolig 2021 yn y Sherman yn addo bod yn wirioneddol gofiadwy. Yn unol â thraddodiad Theatr y Sherman, bydd y theatr yn llwyfannu dau gynhyrchiad newydd dan arweiniad actor gerddorion. Fe aildrefnwyd y cynyrchiadau o’r llynedd, er mwyn swyno a difyrru cynulleidfaoedd ledled Caerdydd a De Cymru a rhoi profiad cyntaf gwerthfawr o theatr fyw i lawer o blant. Yn yr un modd â phob cynhyrchiad Gwnaed yn y Sherman, mae’r ddwy sioe yn cael eu creu yn gyfan gwbl o dan do’r Sherman yng nghanol Caerdydd. Mae’r ddau gynhyrchiad yn dod a straeon poblogaidd yn fyw, a hynny mewn addasiadau gan ddau o awduron mwyaf adnabyddus Cymru ar gyfer y llwyfan; dau y mae eu gwaith yn gyfystyr â Theatr y Sherman: Gary Owen (Iphigenia in Splott, Killology a The Cherry Orchard) a Katherine Chandler (Lose Yourself a Bird).

Yn y Prif Dŷ, bydd cynulleidfaoedd 7 oed a hŷn yn cael eu cludo i Gaerdydd yn Oes Fictoria yng nghynhyrchiad ysblennydd ac atmosfferig Joe Murphy, sy’n fersiwn newydd o addasiad Gary Owen o glasur Charles Dickens, A Christmas Carol. Y llwyfaniad newydd hwn fydd cynhyrchiad cyntaf Joe Murphy yn y Prif Dŷ fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman.

Yn dilyn cynhyrchiad dwyieithog hynod lwyddiannus o Yr Hwyaden Fach Hyll / The Ugly Duckling yn 2019, mae’r awdur Katherine Chandler a’r cyfarwyddwr Sara Lloyd (Anfamol Theatr Genedlaethol Cymru) yn dod ynghyd unwaith eto i greu cynhyrchiad newydd o addasiad Katherine o Y Coblynnod a’r Crydd / The Elves and the Shoemaker. Perfformir y cynhyrchiad hwn yn Gymraeg a Saesneg mewn perfformiadau ar wahân ac fe’i crëwyd yn arbennig i gyflwyno plant 3-6 oed i fyd y theatr. Mae’r cyfieithiad Cymraeg gan Mererid Hopwood.

Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi’r cast a’r timau creadigol ar gyfer y ddau gynhyrchiad, gydag artistiaid Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru yn ganolbwynt iddynt. Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, “Rydym yn falch iawn o allu cynnig profiadau llawen i’n cynulleidfaoedd yn y theatr adeg y Nadolig. Un o’r pethau sy’n gwneud tymor yr ŵyl mor arbennig – a bydd hyn yn bwysicach nag erioed eleni – yw’r cyfle i ddod at ein gilydd a threulio amser gyda ffrindiau a theulu, ac nid oes lle gwell i wneud hynny nag yn y theatr. Mae gennym ddau addasiad hyfryd gan ddau o ddramodwyr gorau Cymru i’w rhannu gyda’n cynulleidfaoedd ac rwy’n hynod gyffrous i groesawu’r ddau gast a’r timau creadigol gwych i’r Sherman i ddod â’r straeon clasurol hyn yn fyw.”

Mae cast gwych o actor gerddorion wedi dod ynghyd ar gyfer A Christmas Carol, gan gynnwys sawl enw sy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd Theatr y Sherman. Mae Hannah McPake yn adnabyddus i gynulleidfaoedd Nadolig y Sherman am ei pherfformiadau fel Chief Weasel yn The Wind in the Willows a Queen of Hearts yn Alice in Wonderland, a hi sy’n chwarae’r cybydd diflas Ebenezer Scrooge. Ffefryn arall o gynyrchiadau’r gorffennol yn y Sherman yw Keiron Self sydd wedi perfformio mewn nifer o sioeau Nadolig, gan gynnwys Alice in Wonderland, The Wind in the Willows, The Borrowers, a The Lion, The Witch and The Wardrobe; mae’n dychwelyd i lwyfan y Prif Dŷ fel Jacob Marley. Mae James Ifan yn adnabyddus i gynulleidfaoedd Nadolig y Sherman fel y Mad Hatter o Alice in Wonderland (2018), ac mae ef hefyd yn ymuno â’r cast. Mae gweddill y cast ar gyfer A Christmas Carol yn cynnwys rhestr gyffrous o actor gerddorion sy’n perfformio am y tro cyntaf mewn sioe Nadolig yn y Sherman: y cerddor a’r actor Kizzy Crawford (Keeping Faith BBC / S4C), Seiriol Davies (The Messenger Theatr y Sherman a How To Win Against History), Feliks Mathur (The Cherry Orchard Union Theatre), Emmy Stonelake (Dick Whittington Theatr Clwyd) a Nadia Wyn Abouayen sy’n gwneud ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf. Ar gyfer pob cynhyrchiad Nadolig yn y Prif Dŷ mae Theatr y Sherman yn cynnig cyfle lefel mynediad gyda thâl trwy’r cynllun Actor Prentis. Ein Hactor Prentis eleni yw Enfys Clara.

Ochr yn ochr â Joe Murphy, mae’r tîm creadigol eithriadol ar gyfer A Christmas Carol yn cynnwys: y Dylunydd Hayley Grindle (Alice in Wonderland, The Borrowers, Iphigenia in Splott Theatr y Sherman), Dylunydd Goleuo Andy Pike (Golwg Gwahanol, The Merthyr Stigmatist Theatr y Sherman), Cyfansoddwr Lucy Rivers (Alice in Wonderland, Sleeping Beauties Theatr y Sherman), Cyfarwyddwr Cerdd Gareth Wyn Griffiths (The Wind in the Willows, The Lion, The Witch and The Wardrobe Theatr y Sherman), Dylunydd Sain Ian Barnard (The Merthyr Stigmatist, Alice in Wonderland Theatr y Sherman), Cyfarwyddwr a Dylunydd Pypedwaith Rachael Canning (Sleeping Beauties, The Snow Tiger Theatr y Sherman), Cyfarwyddwr Cyswllt Matthew Holmquist (Ripples CBCDC/Theatr y Sherman/National Theatre Wales) a’r Goruchwyliwr Gwisgoedd Clara Lockyer. Mehdi Razi yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol dan Hyfforddiant, sy’n gyfle lefel mynediad gyda thâl a grëwyd mewn cydweithrediad rhwng Theatr y Sherman a chwmni Red Oak Theatre.

Y cast talentog ar gyfer Y Coblynnod a’r Crydd / The Elves and the Shoemaker yw Karin Diamond (Belonging/Perthyn Re-Live) a Jed O’Reilly; bydd llawer yn ei gofio yn chwarae’r brif ran yn sioe Nadolig Stiwdio Theatr y Sherman yn 2019, sef Yr Hwyaden Fach Hyll / The Ugly Duckling. Y tîm creadigol arbennig sy’n gweithio ochr yn ochr â Sara Lloyd yw: y Dylunydd Tomas Palmer, Dylunydd Goleuadau Ceri James (Tylwyth Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru, Yr Hwyaden Fach Hyll / The Ugly Duckling Theatr y Sherman), Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd Dyfan Jones (Yr Hwyaden Fach Hyll / The Ugly Duckling, Hud y Crochan Uwd / The Magic Porridge Pot Theatr y Sherman) a’r Dylunydd Sain Cyswllt Ian Barnard. Tafsila Khan yw’r Cynorthwy-ydd Cynhyrchu dan Hyfforddiant. Mae hwn yn gyfle lefel mynediad gyda thâl.