Dathliad yr Haf

Crewyr Theatr
THEATR Y SHERMAN YN DATHLU CREADIGRWYDD EI PHOBL IFANC A'I ENSEMBLE NAD YW’N BROFFESIYNOL YR HAF HWN

Bydd Dathliad yr Haf yn cynnwys gŵyl UpRoar, fydd yn arddangos gwaith cyfranogwyr y rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn y Sherman, cynhyrchiad byw cyntaf y Sherman Players ers tair mlynedd – Marian, or the True Tale of Robin Hood – a fersiwn newydd hwyliog o Treasure Island gan Theatr Ieuenctid y Sherman a’r Sherbets.

Mae datblygu pobl ifanc a darparu cyfleoedd i berfformwyr nad ydynt yn broffesiynol yn elfennau hynod bwysig o waith y Sherman. Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni Ymgysylltu Creadigol sy’n arloesol yn y sector, yn ogystal a rhai sydd wedi’u sefydlu ers amser.

Mae ein rhaglenni yn galluogi pobl ifanc a pherfformwyr nad ydynt yn broffesiynol o bob rhan o Gaerdydd a De Cymru i ryddhau eu creadigrwydd gan ganiatáu iddynt ddatblygu sgiliau, magu hyder a chwrdd ag eraill. Mae Dathliad yr Haf (Mehefin 24 – Gorffennaf 30) yn rhoi llwyfan i greadigrwydd rhyfeddol y cyfranogwyr o’r rhaglenni Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, Sherbets, Players a Theatr Ieuenctid y Sherman.

Mae’r dathliad llawen hwn yn gyfle i’r perfformwyr a’r gwneuthurwyr theatr ifanc hyn nad ydynt yn broffesiynol i feddiannu’r Sherman gan gynnig profiad theatrig unigryw a llawn ysbryd i gynulleidfaoedd. Drwy Ddathliad yr Haf bydd ein cyfranogwyr, gwneuthurwyr theatr a chynulleidfaoedd yn gallu cysylltu unwaith eto â’n gwaith Ymgysylltu Creadigol.

Ers 2018, mae pobl ifanc rhwng 15 a 18 oed wedi archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol trwy ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu sydd wedi helpu i feithrin lleisiau ein awduron ieuengaf. Bydd gŵyl UpRoar, a gynhelir yn y Stiwdio, yn dod â pherfformiadau gan gyfranogwyr presennol a blaenorol ynghyd.

Bydd UpRoar hefyd yn cynnig llwyfan i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd pobl ifanc niwroamrywiol, LHDTC+ a phobl sydd wedi’u dadleoli yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai ysgrifennu i ddatblygu dramâu byrion, a hynny dan arweiniad ymarferwyr arbenigol gan gynnwys Katie Elin-Salt, Rheolwr Llenyddol y Sherman Branwen Davies a’r Cydymaith Llenyddol Alice Eklund. Yna bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i weld eu darnau byr yn cael eu perfformio mewn cyfres o Sesiynau Gwaith ar Waith.

Sherman Players yw grŵp theatr cyfeillgar, hwyliog a chroesawgar Theatr y Sherman i bawb dros 18 oed. Bydd yr ensemble, nad ydynt yn broffesiynol, yn llwyfannu Marian, or the True Tale of Robin Hood (Gorffennaf 21 – 23) gan Adam Szymkowicz yn y Prif Dŷ, sef eu cynhyrchiad byw cyntaf ers ‘Tis Pity She’s A Whore yn 2019. Mae’r ddrama hynod ddoniol hon i oedolion yn troi’r chwedl ar ei phen gan greu Robin Hood ar gyfer ein hoes ni. Cynlluniwyd Marian, or The True Tale of Robin Hood gan Aled Wyn Williams.

Bydd y Prif Dŷ yn atseinio ag egni gwyllt wrth i ddwsinau o gyfranogwyr Theatr Ieuenctid y Sherman gamu i’r llwyfan gyda fersiwn newydd hwyliog o Treasure Island (Gorffennaf 28 – 30). Mae’r sioe yn ddelfrydol ar gyfer cynulleidfaoedd dros 7 oed, ac mae’r stori antur glasurol hon gan Robert Louis Stevenson wedi’i haddasu gan Reolwr Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman, Timothy Howe.

Bydd perfformwyr rhwng 8 ac 18 oed ar y llwyfan yn ogystal â’r Sherman Sherbets, ein grŵp ieuengaf, a fydd i’w clywed ar y trac sain. Bydd Treasure Island, a gyfarwyddwyd gan artistiaid dysgu Theatr Ieuenctid y Sherman ac a chynlluniwyd gan Aled Wyn Williams, yn sicr o fod yn wledd ddifyr yr haf hwn.

Ni fyddai gweithgareddau Ymgysylltu Creadigol helaeth Theatr y Sherman yn bosibl heb yr ymarferwyr medrus a’r artistiaid dysgu sy’n gweithio ochr yn ochr â thîm Ymgysylltu Creadigol y Sherman i gyflwyno’r rhaglenni. Drwy ddod â thîm arbenigol o bobl greadigol ynghyd i gydweithio ar y perfformiadau, mae Dathliad yr Haf yn cydnabod eu cyfraniad hanfodol i’r gwaith hwn.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy:
“Mae ein gwneuthurwyr theatr ieuengaf a’r Sherman Players bob amser yn dod a safbwyntiau newydd yn ogystal a chreadigrwydd cyfoethog i’r Sherman. Mae Dathliad yr Haf yn cydnabod eu gwaith caled ac yn dangos pa mor bwysig yw ein gwaith Ymgysylltu Creadigol i ni yn Theatr y Sherman. Alla’ i ddim aros i weld beth fyddan nhw’n ei gynhyrchu yr haf hwn.”

Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu: UpRoar
Perfformiadau nos Wener: Mehefin 24, Gorffennaf 1 a 8, 7.30yh
Perfformiadau nos Sadwrn gan gynnwys sesiynau gwaith ar waith: Mehefin 25, Gorffennaf 2 a 9, 7.00yh
Tocynnau: £3 y perfformiad

Sherman Players: Marian, or the True Tale of Robin Hood
Gorffennaf 21 – 23, 7.30yh
Tocynnau £9

Gan Adam Szymkowicz
Cynlluniwyd gan Aled Wyn Williams

Theatr Ieuenctid y Sherman: Treasure Island
Gorffennaf 28 – 30, 6.30yh
Tocynnau: £9, Plant a rhai o dan 25 oed hanner pris

Gan Timothy Howe
Cyfarwyddwyd gan Artistiaid Dysgu Theatr Ieuenctid y Sherman
Cynlluniwyd gan Aled Wyn Williams

ARTISTIAID DYSGU
Steve Bennett, Nerida Bradley, Ashley Cummings, Hafwen Hibbard, Cassidy Howard-Kemp, Sophie Hughes, Mabel McKeowen, Rachel Morgan-Belle, Debbie Riggs, Karah Watkins & Leigh Woolford