CYMUNEDAU CAERDYDD YN MEDDIANNU EIN PRIF DŶ YM MIS AWST

Uncategorized @cy

Bydd cynhyrchiad pwysig i ddathlu pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50 oed yn cyfuno ysgrifennu newydd a chyd-greu, ac yn adrodd straeon gan amrywiaeth eang o gymunedau.

Mae Caerdydd yn ddinas â chymeriad ac ysbryd unigryw diolch i gyfraniadau ei chymunedau amrywiol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Theatr y Sherman wedi canolbwyntio ar adrodd straeon lleol gyda neges fyd-eang. Mae’n addas felly bod straeon rhai o gymunedau Caerdydd yn cael eu hadrodd ar lwyfan Prif Dŷ’r Sherman fel elfen ganolog o’i rhaglen benblwydd yn 50 oed, a hynny gan ddefnyddio geiriau aelodau o’r cymunedau hynny. Bydd y sioe yn cael ei chynnal ym mis Awst (dyddiau i’w cadarnhau) ac yn sicr o fod yn ddathliad bywiog o gyfraniad y cymunedau hynny i’r ddinas. Mae’r cynhyrchiad yn ganlyniad i brosiect cymunedol a wnaed yn bosibl drwy grant o £55,607 a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Drwy gydol y sioe, bydd yr awdur Paul Jenkins, yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, er mwyn adrodd hanes y brodyr Sherman. Roedd Harry ac Abe Sherman yn blant i fewnfudwyr Iddewig o Ddwyrain Ewrop, ac yn gyfrifol am sefydlu cwmni enwog y Sherman Pools yng Nghaerdydd a oedd yn gyflogwr mawr yn y ddinas. Roedd y brodyr yn ddyngarwyr ymroddedig, gan roi rhoddion hael i lawer o gymunedau ledled y ddinas, ac yn dilyn eu marwolaethau, derbyniwyd rhodd fawr er mwyn galluogi sefydlu Theatr y Sherman.

Yn ogystal â stori ysbrydoledig y brodyr, bydd pum grŵp yn adrodd straeon am eu cymunedau nhw. Y grwpiau yw: Darpariaeth Dydd Cathays, Cymuned y Byddar Caerdydd, Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan (KAWA), Waulah Cymru a’r Welsh Ballroom Community. Dros gyfnod o bymtheg wythnos bydd tîm Theatr y Sherman, dan arweiniad cyfarwyddydd y cynhyrchiad a’r Cydlynydd Ymgysylltu Creadigol Francesca Pickard a’r cynhyrchydd Mehdi Razi, yn gweithio’n agos gyda’r cymunedau er mwyn eu cefnogi i adnabod y straeon yr hoffent eu rhannu. Bydd y straeon yn cael eu hadrodd ar y llwyfan gan dîm o berfformwyr proffesiynol ac aelodau o’r grwpiau cymunedol sy’n cymryd rhan.

Mae’r sioe hon dros yr haf eleni yn dilyn cynyrchiadau cymunedol hynod lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Home, gyda chymuned Waulah, a Love, Cardiff gyda chymunedau sy’n byw yn ardal City Road. Fel y cynyrchiadau hynny, bydd prosiect 2023 yn ffordd hanfodol o ddiogelu treftadaeth gymunedol. Bydd gwaddol y cynhyrchiad yn cynnwys rhannu ac archifo’r straeon a gasglwyd yn ystod y broses.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy “Rydym yn caru dinas Caerdydd oherwydd ei chymysgedd gyfoethog ac amrywiol o gymunedau. Mae’r Sherman ei hun yn enghraifft o’r cyfraniadau lu a wneir gan gymunedau ein dinas. Rydym yn gyffrous i allu adrodd stori Harry ac Abe Sherman ac o fod yn rhannu ein llwyfan gyda chymunedau a fydd yn adrodd eu straeon eu hunain. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cynhyrchiad hwn a’r broses o’i llwyfannu yn gyfle i ni oll – cymunedau, cynulleidfaoedd a gwneuthurwyr theatr gael profiad cyfoethog drwy gysylltu ag eraill, ac uno drwy empathi.”

Bydd manylion pellach gan gynnwys teitl y cynhyrchiad yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Bydd tocynnau yn cael eu gwerthu ar sail Talu Beth Allwch Chi, a byddant yn mynd ar werth ar Fehefin 14.