CYHOEDDI’R CAST A’R TIMOEDD CREADIGOL AR GYFER NADOLIG YN Y SHERMAN

Cyhoeddiadau Sherman yn 50
Mae cast eithriadol o actor-gerddorion a thimoedd creadigol llawn wedi’u cyhoeddi ar gyfer cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman ar flwyddyn eu pen-blwydd yn 50 - Peter Pan a Hansel a Gretel.

Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau Nadolig a’u crëwyd yn Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant ar draws De Cymru i hud y theatr. Mae Nadolig yn y Sherman bob amser yn cynnig adloniant gwych ac sydd ychydig yn wahanol i deuluoedd ledled De Cymru. I ddathlu eu pen-blwydd yn 50, bydd Theatr y Sherman yn llwyfannu addasiadau newydd o ddwy stori glasurol mewn cynyrchiadau hudolus – Peter Pan a Hansel a Gretel.

Yn y Brif Theatr, bydd cynulleidfaoedd 7+ oed yn cael eu swyno gan Peter Pan, drama newydd gyda chaneuon gan Catherine Dyson (Transporter Theatr Iolo, Thunder Road RedCape Theatre) yn seiliedig ar stori dragwyddol J.M. Barrie. Mae Peter Pan (27 Tach – 6 Ion) yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo. Cyfarwyddir y cynhyrchiad gwefreiddiol hwn gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo Lee Lyford (The Wind in the Willows Theatr y Sherman; A Christmas Carol Bristol Old Vic) ac fe’i cefnogir gan NoFit State Circus sydd wedi dyfeisio’r golygfeydd hedfan.

Mae cast Peter Pan yn cynnwys Emily Burnett (The Dumping Ground BBC; Hollyoaks E4) fel Wendy, a Rebecca Hayes (To Kill A Mockingbird West End; Y Cylch Sialc Theatr Genedlaethol Cymru) fel Peter. Bydd hen ffefryn Nadolig yn y Sherman Keiron Self (Tales of the Brothers Grimm Theatr y Sherman, My Family BBC), yn ymddangos yn ei nawfed cynhyrchiad Nadolig yn y Sherman, yn chwarae rhan Mr Darling a Smee. Hefyd yn dychwelyd i Theatr y Sherman mae Alex Murdoch (Dance to the Bone Theatr y Sherman & Neon Candle; The Snow Queen Tobacco Factory & New International Encounter) fel Hook, Rebecca Killick (The Wind in the Willows Sherman Theatre; Life of Pi West End) fel Tiger, a Peter Mooney a fydd yn ymddangos ar lwyfan y Brif Theatr cyn bo hir yn Housemates, ein cyd-gynhyrchiad gyda Hijinx, yn chwarae rhan John. Cwblheir y cast gan Owen Alun (Rownd a Rownd S4C; Pijin / Pigeon Theatr Iolo a Theatr Genedlaethol Cymru) fel Tink, Kevin McIntosh fel Michael (NoFitState) a’r Cyfarwyddwr Cerdd ar lwyfan Lynwen Haf Roberts (Robin Hood, Beauty and the Beast Theatr Clwyd).

Dywedodd Lee Lyford: “Rwy’n hynod o gyffrous i fod yn cyfarwyddo Peter Pan yn y Sherman dros y Nadolig. Mae gan Theatr y Sherman enw arbennig am greu sioeau Nadolig hudolus, felly mae’n anrhydedd i Theatr Iolo fod yn cyd-gynhyrchu’r sioe eleni yn y brif theatr fel rhan o’u tymor pen-blwydd yn 50, ac yn anrhydedd i mi’n bersonol i fod yn cyfarwyddo cynhyrchiad Nadolig arall yma. Bydd fersiwn Catherine Dyson o’r stori boblogaidd hon yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith i fyd lle mae unrhyw beth yn bosib; lle does dim byd i gyfyngu plant ond eu gallu i freuddwydio. I mi, y peth mwyaf rhyfeddol am theatr yw’r grym sydd ganddi i gyffwrdd â chalonnau a meddyliau plant a phobl ifanc. Mae Peter Pan wedi dal dychymyg cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, a dw i methu aros i weithio gyda chast a thîm creadigol mor arbennig ar y sioe Nadolig wirioneddol gofiadwy hon.”

Yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Lee Lyford fel rhan o’r tîm creadigol mae’r Cynllunydd Rachael Canning (Fleabag Theatr Clwyd; The Wizard of Oz Curve Leicester & London Palladium) a’r Cyfansoddwr a Thelynegydd Gwyneth Herbert (A Christmas Carol, The Nutcracker Bristol Old Vic). Yn dathlu 20 mlynedd ers ei gynllun cyntaf i Theatr y Sherman, Ceri James (Imrie Theatr y Sherman a Frân Wen;  Y Coblynnod a’r Crydd / The Elves and the Shoemaker) yw’r Cynllunydd Goleuo i Peter Pan a Hansel a Gretel. Ian Barnard yw’r Cynllunydd Sain, yn dilyn cynhyrchiad llynedd, Tales of the Brothers Grimm, ac A Christmas Carol yn 2021 yn y Brif Theatr.

Yn y Stiwdio, Hansel a Gretel (3 – 4 Tach a 27 Tach – 6 Ion) gan Katie Elin-Salt (Love (and Loss) in the Time of Corona cyfres TEN Theatr y Sherman, Celebrated Virgins Theatr Clwyd) yw’r cyflwyniad perffaith i’r theatr i blant 3-6 oed. Bydd Hansel a Gretel yn cael ei pherfformio o fewn awyrgylch anffurfiol yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn perfformiadau ar wahân, gyda chyfieithiad i’r Gymraeg gan Branwen Davies (Snow Tiger / Teigr Yr Eira Sherman Theatre; Fleabag Theatr Clwyd). Yn llawn o ganeuon a chwerthin, mae pawb yn siŵr o garu’r fersiwn newydd hon o Hansel a Gretel, sy’n rhoi tro braf a blasus i’r stori. Mae’r cynhyrchiad a gyfarwyddir gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy (Tales of the Brothers Grimm, A Christmas Carol Theatr y Sherman) yn cynnig rhyfeddodau, hudoliaeth a llond bol o hwyl i fynychwyr ieuengaf y theatr a’u teuluoedd. Cyn dechrau ar ei chyfres o berfformiadau dros y Nadolig bydd Hansel a Gretel ar daith yng Nghasnewydd, Coed Duon, Garth Olwg, Ystradynglais, Cas-gwent, Aberhonddu, Penygraig a’r Barri.

Perfformir Hansel a Gretel gan gast o dri actor-gerddorion. Elin Phillips (Alice in Wonderland, The Lion, The Witch and the Wardrobe Theatr y Sherman) sy’n chwarae rhan Gretel a James Ifan (Tales of the Brothers Grimm, A Christmas Carol Theatr y Sherman) a fydd yn perfformio yn Housemates ym mis Hydref fydd yn chwarae rhan Hansel. Mari Fflur (Consent Theatr Clwyd; Arth S4C ac iPlayer) fydd yn perfformio pob rôl arall.

Ar ôl plesio cynulleidfaoedd gyda dwy sioe lwyddiannus yn olynol yn y Brif Theatr dros y Nadolig, Tales of the Brothers Grimm ac A Christmas Carol, bydd Joe Murphy (A Midsummer Night’s Dream, A Hero of the People Theatr y Sherman) yn cyfarwyddo ei sioe Nadolig gyntaf i blant dan 7 oed. Mae ei bartneriaeth hynod lwyddiannus Nadolig yn y Sherman gyda’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd Hayley Grindle (Romeo and Julie Theatr y Sherman & National Theatre, Iphigenia in Splott Theatr y Sherman) yn parhau yn dilyn llwyddiant Tales of the Brothers Grimm ac A Christmas Carol. Lynwen Haf Roberts (Golygfeydd o’r Pla Du Theatrau Sir Gâr, Celebrated Virgins Theatr Clwyd) yw’r Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd. Ceri James (Imrie Theatr y Sherman a Frân Wen; Y Coblynnod a’r Crydd / The Elves and the Shoemaker) yw’r Cynllunydd Goleuo. Alice Eklund yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, mae’r rôl hon yn rhan o’n menter Cyfarwyddwr Iaith Gymraeg dan Hyfforddiant.

Dywedodd Joe Murphy “Mewn sawl ffordd, cynhyrchiad Nadolig dwyieithog Theatr y Sherman ar gyfer plant 3 – 6 oed yw un o’r sioeau pwysicaf rydyn ni’n ei chynhyrchu bob blwyddyn. Bob Nadolig mae miloedd o blant yn cael eu blas cyntaf o hud y theatr gyda’r sioe Stiwdio. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr felly i ddod â drama hyfryd Katie yn fyw ac yn ymwybodol o’r gwir gyfrifoldeb sydd wrth roi profiad i blant a fydd yn eu swyno, profiad a fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd lawer. Gan weithio gyda chast a thîm creadigol gwych, rwy’n gyffrous i greu atgofion gall blant drysori’r Nadolig hwn.”