Cyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol llawn ar gyfer Dance to the Bone

Uncategorized @cy

Mae Neon Candle, y cynhyrchydd annibynnol Ceriann Williams a Theatr y Sherman wedi cyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol llawn ar gyfer eu cyd-gynhyrchiad Dance to the Bone (Mawrth 25 – Ebrill 2) gan Oliver Hoare ac Eleanor Yates, sydd wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Joe Murphy a Matthew Holmquist.

Mae’r cast ar gyfer Dance to the Bone yn cynnwys criw eithriadol o actor-gerddorion. Yasemin Özdemir (Angel, Theatr y Torch; Living Newspaper, Royal Court; We Need to Talk About Grief, Donmar Warehouse; Romeo & Juliet, Frantic Assembly/Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru; A Spy Among Friends, ITV; Vandullz, BBC) sy’n chwarae rhan Joanne Bevan ac yn arwain y cast.

Bydd cyd-sylfaenwyr Neon Candle, Oliver Hoare (Sunny Afternoon, West End; Anthony and Cleopatra, Chichester Festival Theatre; People Just Do Nothing, BBC) ac Eleanor Yates (Versailles, Donmar Warehouse; Mr Turner gan Mike Leigh; Harlots a The Crimson Petal and the White, BBC) hefyd yn ymuno â’r cast. Jack Beale (The Lorax, The Old Vic; Once, West End, Troilus & Cressida, RSC; Brief Encounter, Kneehigh Theatre), sy’n chwarae rhan John, ac mae ef yn Artist Cyswllt gyda Neon Candle ac wedi bod yn ymwneud â datblygu Dance to the Bone ers y dechrau.

Bydd Tesni Kujore (Mission Control, National Theatre Wales; Craith/Hidden, S4C/BBC), Alex Murdoch (Curtain Up, Theatr Clwyd; Life of Galileo, Young Vic; wedi’i gomisiynu fel awdur gan National Theatre Wales a’r RSC; Awdur Preswyl 2018 yn Theatr Clwyd), Gavin Swift (War Horse, National Theatre; Rocket Post, National Theatre of Scotland; The Last Mermaid, Canolfan Mileniwm Cymru), a Sarah Workman (Sugar Coat, VAULT Festival; Girls Don’t Play Guitars, Liverpool Royal Court) yn ymuno â nhw.

Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman Joe Murphy (A Christmas Carol, Theatr y Sherman; Woyzeck, The Old Vic; Blink, Soho Theatre, Off-Broadway & nabokov) a Matthew Holmquist (Cyd-Gyfarwyddwr Artistig Red Oak Theatre, sef Cwmni Preswyl Theatr y Sherman; Cyfarwyddwr Cyswllt A Christmas Carol a Chyfarwyddwr Cynorthwyol The Snow Queen, The Taming of The Shrew a Tremor, Theatr y Sherman) yn cyd-gyfarwyddo’r cynhyrchiad.

Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y Coreograffydd Krystal S. Lowe (Good Things to Come, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru; Somehow, Music Theatre Wales; Complexity of Skin, Culture in Quarantine gan y BBC), sy’n ddawnsiwr, coreograffydd, awdur, a chyfarwyddwr a aned yn Bermuda ac sy’n byw yng Nghymru, ac yn creu gwaith dawns theatrig ar gyfer y llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm gan archwilio themâu o hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl, lles a grymuso. Mae Simin Ma (Golwg Gwahanol, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i’r Sherman fel Dylunydd ochr yn ochr â’r Cynllunydd Goleuo a Fideograffydd Andy Pike (A Christmas Carol, The Merthyr Stigmatist a Lose Yourself, Theatr y Sherman; Strictly Come Dancing, BBC) a’r Peiriannydd Sain Josh Bowles. Mae Tafsila Khan (Cydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru; ymgynghorydd hygyrchedd sy’n arbenigo mewn sain ddisgrifiad integredig; aelod o fyrddau Cyngor Celfyddydau Cymru, National Theatre Wales, Taking Flight a Ffio) yn Gyfarwyddwr dan Hyfforddiant.

Mae Dance to the Bone wedi’i ysbrydoli gan stori wir am glefyd dirgel a ymledodd yn Strasbwrg ym 1518. Yn Ne Cymru, bum can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r clefyd wedi dychwelyd. Mae crewyr a chyd-sefydlwyr Neon Candle, Oliver Hoare ac Eleanor Yates, wedi bod yn ysgrifennu’r ddrama am y deunaw mis diwethaf, gyda chefnogaeth y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy, Matthew Holmquist a phrif gynhyrchydd y cynhyrchiad, Ceriann Williams.

Gan gyfuno cymysgedd eclectig o theatr, cerddoriaeth fyw a pherfformiad corfforol, mae’r ddrama’n canolbwyntio ar Joanne Bevan, gweithiwr canolfan alwadau sy’n unig a rhwystredig. Mae’n canfod ei bod wedi datgysylltu ei hun oddi wrth ei theulu, ei chymuned a’i chorff ei hun, hyd nes un diwrnod pan ddaw St. Vitus, Nawddsant dawnsio i ymweld â hi. Mae Dance to the Bone yn anesmwytho ac yn codi calon, yn ysgogi sgwrs am effaith cysylltiadau dynol ac yn dathlu’r elfennau gwyllt sydd oddi mewn i ni.

Dywedodd Joe Murphy “Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi cast mor gyffrous ac o fod yn gweithio ochr yn ochr â thîm creadigol mor wych, yn ogystal a Neon Candle a Ceriann Williams ar Dance to the Bone. Ar ôl ein holl brofiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd drama hyfryd a llawen Oliver ac Eleanor yn cynnig profiad cymunedol a chathartig ac ni allwn aros i’w rannu â’n cynulleidfaoedd.”

Dywedodd Oliver Hoare ac Eleanor Yates “Rydym yn falch iawn o gael llwyfannu Dance to the Bone yn Theatr y Sherman, sef cynhyrchiad cyntaf Neon Candle. Mae’r sioe hon wedi’i datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda chefnogaeth anhygoel gan y tîm gwych yma. Stori merch ifanc sydd angen ailgysylltu â’i theulu, ei gwreiddiau a’i chorff ei hun yw Dance to the Bone. Mae’n ddathliad o bopeth rydyn ni wedi’i golli am theatr fyw dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn noson wyllt sy’n cyfuno straeon gonest, cerddoriaeth wreiddiol a dawns.”