Cyhoeddi’r Cast â’r Tîm Creadigol ar gyfer Tales of the Brothers Grimm

Castio Uncategorized @cy
Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol ar gyfer Tales of the Brothers Grimm (Tach 26 – Rhag 31). Y Nadolig hwn, bydd cynulleidfaoedd dros 7 oed yn cael eu cludo o Gaerdydd yn yr Oes Edwardaidd i fyd hudolus y Brodyr Grimm. Yng nghynhyrchiad ysblennydd Joe Murphy o addasiad newydd Hannah McPake o Tales of the Brothers Grimm, gwahoddir cynulleidfaoedd i ymuno â’u hoff gymeriadau o straeon tylwyth teg mewn antur newydd sbon.

Mae The Tales of the Brothers Grimm yn dod â chast eithriadol o actor-gerddorion ynghyd, gan gynnwys nifer o ffefrynnau y Sherman. Yn ogystal ag ysgrifennu’r sioe eleni, bydd Hannah McPake – a fu’n swyno cynulleidfaoedd yn ddiweddar fel Scrooge yn A Christmas Carol a Queen of Hearts yn Alice in Wonderland – yn dychwelyd i Brif Theatr y Sherman fel Mum / Snow Queen.

Mae James Ifan (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman) yn dychwelyd i chwarae Uncle Jack / Jacob Grimm / Prince Charming. Ac yn dilyn ei rôl fel Jacob Marley yn A Christmas Carol y llynedd, mae Keiron Self (My Family, BBC) yn dychwelyd eleni ar gyfer ei seithfed cynhyrchiad Nadolig yn y Sherman, fel yr Adroddwr.

Hefyd yn ymuno â’r cast mae Lily Beau (Y Golau / The Light, Channel 4 / S4C; Craith / Hidden, S4C) fel Stevie a Katie Elin-Salt (The Tuckers, BBC Wales; Stella, Sky) fel Cinderella / Hannekas.

Bydd Artist Cyswllt Theatr y Sherman Kyle Lima (The Pembrokeshire Murders, ITV) hefyd yn ymuno â nhw; fe’i gwelwyd ddiwethaf ar lwyfan y Sherman fel Uncle Will / Wilhelm Grimm / Wolf yn The Motherf**ker with the Hat.

Bethzienna Williams (The Assassination of Katie Hopkins, Theatr Clwyd; We Hunt Together, BBC) fydd yn chwarae Sleeping Beauty. Yn cwblhau’r cast bydd Sarah Workman (Dance to the Bone, Theatr y Sherman; Girls Don’t Play Guitars, Liverpool Royal Court), sy’n dychwelyd i’r Sherman fel Rapunzel / Teeneka.

Bydd tîm dawnus yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy (A Hero of the People, A Christmas Carol, Theatr y Sherman), gan ddod a nifer o unigolion o dimau creadigol sioeau Nadolig blaenorol y Sherman ynghyd unwaith eto. Bydd y tîm yn cynnwys y Cyfansoddwr Lucy Rivers (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman), y Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate (Sunday in the Park with George, RWCMD; Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru), y Cynllunydd Hayley Grindle (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman), y Cynllunydd Goleuo Andy Pike (Dance to the Bone, A Christmas Carol, Theatr y Sherman) a’r Cynllunydd Sain Ian Barnard (A Christmas Carol, Alice in Wonderland, Theatr y Sherman).

Dywedodd Joe Murphy: “Un o’r pethau sy’n gwneud tymor y Nadolig mor arbennig yw’r cyfle i ddod at ein gilydd a threulio amser gyda ffrindiau a theulu, ac nid oes lle gwell i wneud hynny nag yn y theatr. Mae addasiad Hannah McPake o Tales of the Brothers Grimm yn addo bod yn brofiad llawen i’n cynulleidfaoedd y Nadolig hwn, ac fe fydd ein tîm hynod dalentog o berfformwyr a phobl greadigol yn dod a’r stori’n fyw.”

Mae’n Noswyl Nadolig ac yn y Grimmdom (cartref y Brodyr Grimm) mae Cinderella, Sleeping Beauty a Rapunzel yn aros i fyw’n hapus am byth bythoedd. Yn y cyfamser yng Nghaerdydd, 1913, mae’n noson wyllt a stormus. Mae Stevie yn aros i ddod o hyd i’w stori, tra bod ei mam yn gwybod yn union pa stori mae hi’n ei byw, yn ymladd gyda’r Swffragetiaid am yr hawl i bleidleisio.

Pan fydd y storm yn cludo Stevie i’r Grimmdom, mae pethau’n dechrau newid. Nid oes yr un o’r straeon yn digwydd fel y disgwylir. Mae’r Blaidd Mawr Drwg wedi dianc. Mae Prince Charming ar goll. Ac mae’r Snow Queen wedi cyrraedd, ond, aros eiliad, onid Hans Christian Andersen a ysgrifennodd amdani hi? A fydd popeth yn dod i ben yn drychinebus? Neu, a all Stevie achub y Grimmdom a dod o hyd i’w stori ei hun?

Mae Hannah McPake wedi’i hysbrydoli gan y straeon tylwyth teg enwog, ac yn ail-ddychmygu byd y Brodyr Grimm. Mae’r sioe Nadolig newydd ysblennydd hon yn llawn caneuon a chwerthin, ac yn cael ei pherfformio gan gast eithriadol o actor-gerddorion. Mae Tales of the Brothers Grimm yn addo gwledd theatrig hudol i bawb dros 7 oed.

Er mwyn sicrhau bod cost y tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mae’r Sherman yn parhau â’u cynllun newydd, Rhagddangosiadau Talu Beth Fynnwch, ar gyfer ei sioeau Nadolig. Bydd y cynllun yn caniatáu i gynulleidfaoedd ddewis faint mae modd iddynt ei dalu am docynnau.