CYHOEDDI CAST TERFYNOL AR GYFER Y DANGOSIAD RHYNGWLADOL CYNTAF O THE WOMEN OF LLANRUMNEY GAN AZUKA OFORKA

Castio

Heddiw mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi’r cast terfynol ar gyfer eu cynhyrchiad Crëwyd yn Sherman nesaf; The Women of Llanrumney. Bydd Keziah Joseph a Matthew Gravelle yn ymuno â Suzanne Packer a Nia Roberts sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Bydd Keziah Joseph (Family Tree Actors Touring Company / Young Vic; The Language of Kindness Wayward Productions; The Lion, the Witch and the Wardrobe Bridge Theatre) yn chwarae rhan Cerys, gyda Matthew Gravelle (Steel Town Murders ITV; Keeping Faith BBC Wales / S4C; Broadchurch ITV; Baker Boys BBC) yn chwarae rhan Simon Taylor, Tommy Flynn a Mr Ainsworth. Byddant yn ymuno â Nia Roberts (A Midsummer Night’s Dream, Hedda Gabler Theatr y Sherman; Steel Town Murders, Doctor Who, Tree on a Hill BBC; Yr Amgueddfa S4C) a fydd yn chwarae rhan Elizabeth, ac Artist Cyswllt Theatr y Sherman Suzanne Packer (A Hero of the People Theatr y Sherman; Casualty, Doctor Who, The Pembrokeshire Murders) a fydd yn chwarae rhan Annie.

Mae tîm creadigol The Women of Llanrumney yn cynnwys Patricia Logue, Artist Cyswllt Theatr y Sherman, fel Cyfarwyddwr (Lose Yourself Theatr y Sherman), Keish Peets a fydd yn gwneud eu hymddangosiad proffesiynol cyntaf fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Mary Stuart – Rheolwr y Llwyfan, CBCDC), Cynllunydd Stella-Jane Odoemelam (Swyn Theatr Genedlaethol Cymru), Cynllunydd Goleuo Andy Pike (Tales of the Brothers Grimm Theatr y Sherman), y Cyfansoddwr Takisha Sargent a fydd yn gwneud ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf a’r Cynllunydd Sain Ian Barnard (Peter Pan Theatr y Sherman / Theatr Iolo).

Mae The Women of Llanrumney yn ddrama hanesyddol ddinistriol sy’n wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru ben-ben, ac sydd wedi’i lleoli ym mhlanhigfa siwgr Llanrhymni yn Jamaica.

1765. Mae Cerys a’i mam Annie wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan cyfoethog o Gymru. Mae eu dyfodol yn hongian yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth allai fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond yn hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.