Bydd cynhyrchiad cyntaf Theatr Sherman o dan ei Darpar Gyfarwyddwr Artistig Francesca Goodridge yn ddrama newydd sbon a fydd yn cael ei chyd-gynhyrchu â’r cwmni gwaith newydd byd-enwog, Theatr y Royal Court, fel rhan o dymor pen-blwydd y Theatr yn 70 oed.
Dyma’r ail dro i’r ddau gwmni theatr gwaith newydd blaenllaw gydweithio, yn dilyn y ddrama, Killology, a ysgrifennwyd gan Gary Owen ac oedd yn llwyddiant masnachol a gyda’r beirniaid, gan ennill Gwobr Olivier yn 2017.
Drama newydd sbon yw Monument gan yr awdur a’r actor o Gymru, Rhys Warrington, sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman ac yn y Royal Court.
‘…Ond ni sy’n gorfod byw gydag e.’
Gyda llygaid y byd yn gwylio, mae cymuned amaethyddol yng Nghymru, wedi’i rhannu gan drasiedi, yn ymgynnull i drafod cofeb arfaethedig. Heno, rydych chi yn neuadd y pentref gyda nhw – ac mae pob pleidlais yn cyfrif.
Gyda dau ddiweddglo posibl yn cael eu pennu gan y penderfyniad rydych chi, y gynulleidfa, yn ei wneud. Pan ddaw’r amser, sut fyddwch chi’n pleidleisio?
Portread o gymuned glos yn ymgodymu â’i gorffennol, ei dyfodol a gwleidyddiaeth coffadwriaeth.
Meddai Rhys Warrington: “Rydw i mor falch y bydd Monument yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Royal Court fel rhan o’u tymor Pen-blwydd yn 70 oed gyda’r fantais ychwanegol y bydd yn cael ei pherfformio ochr yn ochr yn Theatr Sherman lle bydd yn rhan o dymor cyntaf Francesca Goodridge fel Cyfarwyddwr Artistig. Mae Monument yn ymwneud â chymaint o bethau, ond i fi bydd bob amser yn ymwneud â chymuned o bobl sydd, er eu bod yn aml yn cael eu hanwybyddu a’u diystyru, yn haeddu’r cyfle i gael eu clywed. Alla i ddim aros iddyn nhw gamu allan ar y llwyfan eiconig yna. Alla i ddim aros i chi gwrdd â nhw.”
Meddai Francesca Goodridge: “Fel fy nghynhyrchiad cyntaf fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, allai Monument ddim bod yn gynhyrchiad mwy addas. Mae’n feiddgar, wedi’i wreiddio yng Nghymru, a ddim ofn gofyn cwestiynau mawr. Mae’n ymgorffori popeth rydw i am i’r Sherman ei gynrychioli; theatr uchelgeisiol a beiddgar wedi’i chreu yng Nghymru sydd o’r ansawdd uchaf.
Mae ein cyd-gynhyrchiad gyda’r Royal Court, sy’n rhan o’u tymor pen-blwydd yn 70 oed, yn gydweithrediad trydanol. Mae’n dod â dwy theatr gwaith newydd flaenllaw ynghyd unwaith eto, gan gysylltu Caerdydd a Llundain mewn dathliad ar y cyd o ddoniau Cymru, ysgrifennu newydd rhagorol, a gwaith adrodd straeon eithriadol. O’r darlleniad cyntaf, roeddwn i’n gwybod bod Monument yn rhywbeth arbennig. Mae Rhys yn ddramodydd eithriadol ac yn gyflym yn dod yn un o leisiau mwyaf grymus gwledydd Prydain.
Mae Monument yn ddatganiad o fwriad; ar gyfer y Sherman, ar gyfer theatr Cymru, ac o ran ble gall ein straeon fynd nesaf.”
Meddai Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry: “Ers degawd, rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran gwaith ysgrifennu newydd o Gymru. Ar y cyd â’n hawduron rydyn ni wedi cyfoethogi canon theatrig Cymru yn aruthrol. Mae’r cydweithrediad mawr newydd yma gyda’n ffrindiau yn Theatr y Royal Court, yr ydyn ni wrth ein boddau’n gweithio gyda nhw unwaith eto, yn dangos sut gallwn ni adeiladu ar y safle yna a mynd ymhellach eto o ran cynrychioli theatr Cymru ledled gwledydd Prydain. Mae Monument yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu theatr eithriadol sy’n taro tant gyda chynulleidfaoedd ac mae’n arwydd cyffrous o ble gallwn ni fynd â theatr Cymru o dan arweinyddiaeth artistig Francesca.”
Cyhoeddwyd taw Francesca Goodridge fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Sherman ym mis Mehefin 2025, a bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Ionawr 2026, gan ymuno â’r Prif Weithredwr Julia Barry yn y tîm arwain.
Bydd Theatr y Sherman yn cyhoeddi ei thymor o gynyrchiadau ar gyfer 2026 yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2025. Yna, yn 2026, bydd yn cyhoeddi ei thymor cyntaf o dan gyfarwyddyd artistig Francesca.