Côr Un Byd: Home away from Home

Uncategorized @cy

Gan mai ni yw Theatr Noddfa gyntaf Cymru, rydym yn angerddol dros ein perthynas â cheiswyr lloches sy’n byw yn ein cymuned leol. Yn 2021 buom yn gweithio’n agos gyda Chôr Un Byd i gyfansoddi a recordio cân newydd gyda’n gilydd. Mae Home away from Home yn dathlu llawenydd creu cerddoriaeth sy’n croesi diwylliannau, ieithoedd a chenedlaethau.

Mae gan Sherman 5 hanes hir o weithio gydag Oasis, sefydliad sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd, ac ym mis Tachwedd 2019 fe wnaethom wahodd Côr Un Byd i berfformio yn ein dathliad Theatr Noddfa a digwyddiad lawnsio’r tymor.

Fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid 2021, daeth Sherman 5 a’r côr at ei gilydd i ddarparu sesiwn ar-lein agored a rhyngweithiol i rannu caneuon, dawnsio gyda’n gilydd a thrafod thema Wythnos Ffoaduriaid sef “Ni allwn gerdded ar ein pennau ein hunain”. Yn dilyn y llwyddiant hwn, penderfynodd y Sherman gytundebu dau berson creadigol i weithio gyda’r côr i greu cân newydd.

Yn ystod y prosiect bu Laura Bradshaw, Cyfarwyddwr Cerdd Côr Un Byd, yn arwain cyfres o weithdai ar-lein lle cyfarfu aelodau’r côr i ddatblygu geiriau ar gyfer y gân newydd Home away from Home. Ysgrifennwyd y geiriau terfynol gan bedwar aelod o’r côr a fu’n rhan o’r gweithdai, gyda mewnbwn gan Rahim El Habachi.

Cyflogwyd yr artistiaid Rahim El Habachi ac Ëadyth Crawford gan Theatr y Sherman i weithio ar y prosiect. Bu Rahim, sydd hefyd yn aelod o Gôr Un Byd, yn cefnogi y rhai fu’n ysgrifennu’r geiriau, tra bu Ëadyth yn gweithio gyda’r côr fel cyfansoddwr ac awdur. Yna daeth tri ar ddeg o aelodau’r côr ynghyd i recordio’r gân yn Theatr y Sherman ym mis Awst 2021.

Bu Theatr y Sherman yn ffilmio tra roedd y gân yn cael ei recordio er mwyn gwneud ffilm ddogfen fer yn dangos sut y cafodd y gân ei chreu.

Dywedodd Christianah Ugbaja, sy’n aelod o’r côr (ac yn un o awduron y geiriau):
“Mae bod yn gysylltiedig â’r côr wedi bod o help mawr i mi oherwydd nhw yw’r unig deulu sydd gennyf mewn gwirionedd. Rydw i wedi cysylltu â chymaint o bobl – yn bobl o Gymru, gwahanol rannau o’r byd a hyd yn oed pobl o fy ngwlad fy hun.”

Ers recordio’r gân, mae Côr Un Byd wedi bod yn perfformio Home away from Home mewn digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys perfformiad yn Eglwys St German yn Adamsdown yn ddiweddar. Fe wnaethon ni ffilmio y perfformiad yn yr adeilad lleol hardd hwn ar gyfer y ffilm ddogfen am greu y gân.

Wrth ymateb i’r ffilm ddogfen, dywedodd Tracy Pallant, Rheolwr Prosiect Côr Un Byd:
“Mae’n hollol, hollol wych – llongyfarchiadau i bawb sydd ynghlwm â Home away from Home. Rydych chi wir wedi cyfleu’r hyn y mae Côr Un Byd Oasis yn ei olygu. Diolch yn fawr iawn am y cyfle hwn.”

Home away from Home