Dyma rai enghreifftiau o’r fath o bethau y gallwn eu cyflawni gyda’r gefnogaeth yma.
Llwybrau Creadigol:
- Garrick Charitable Trust – yn cefnogi lleoliad gwaith i Oleuwr Dan Hyfforddiant yn ystod ein tymor Nadolig 2023.
- The Fenton Arts Trust – yn cefnogi swydd Cynllunydd Dan Hyfforddiant cyflogedig a swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol i weithio ar ein cynyrchiadau Theatr Ieuenctid.
- The D’Oyly Carte Charitable Trust – yn cefnogi ein Gŵyl Theatr Ieuenctid 2023 a oedd yn canolbwyntio ar agor mynediad at ymgysylltiad creadigol i bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed.
- Darkley Trust – yn cefnogi lleoliad gwaith Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar ein cynhyrchiad Nadolig 2022 ar y brif lwyfan.
Gwendoline and Margaret Davies Charity – yn darparu cefnogaeth ar gyfer ein sesiynau Paned a Stori, menter sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd, sy’n cynnig cyfle i bobl hŷn gwrdd ag eraill, profi darlleniad o ddrama a sgwrsio amdani dros baned.
Moondance Foundation – Mae Sefydliad Moondance yn cefnogi ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu ar hyn o bryd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i ddenu ac i ysbrydoli pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, a’i nod yw creu awduron ifanc a allai yna symud i mewn i rai o’r mentrau a’r rhaglenni sy’n cael eu cefnogi gan ein Tîm Llenyddol.
Paul Hamlyn Foundation – Cefnogodd Sefydliad Paul Hamlyn ni i sefydlu rhaglen Sherman 5 yn 2013. Gyda chefnogaeth barhaus gan y Sefydliad dros y naw mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi datblygu cysylltiadau agos gyda chymunedau amrywiol, gan gynnwys Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, pobl Hŷn, pobl Fyddar, pobl â Nam ar eu Golwg, a theuluoedd i gefnogi mynediad ac ymgysylltiad â’n gwaith.
Stage One Regional Trainee Producer Placement – Yn 2021/2022 fe gefnogon ni Leoliad Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Rhanbarthol Stage One. Roedd y lleoliad cyflogedig llawn amser blwyddyn o hyd yn cynnig cyfle i gynhyrchydd newydd lleol weithio ar draws ein holl raglen artistig, gan gefnogi mewn ystod o ffyrdd.
Weston Jerwood Creative Bursaries Programme – Yn 2018, daeth Theatr y Sherman yn un o 40 o sefydliadau celfyddydol a oedd yn rhan o raglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood. Mae’r rhaglen yn cefnogi unigolion sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol i gael mynediad teg i yrfaoedd yn y celfyddydau, trwy gynnig cymrodoriaethau wedi’i noddi.
Os ydych chi’n cynrychioli Ymddiriedolaeth neu Sefydliad sydd â diddordeb mewn cefnogi Theatr y Sherman, neu eisiau dysgu mwy am ein gwaith, cysylltwch ag Emma Tropman, Pennaeth Codi Arian a Datblygu: emma.tropman@shermantheatre.co.uk