Enwi Sedd

Yr anrheg berffaith i bawb sy'n caru'r theatr.
Rhowch enw ar Sedd heddiw gyda chyfraniad o £300 a chefnogwch ni i barhau i wneud theatr arobryn a chlodwiw yng nghanol dinas Caerdydd.

Gallwch enwi sedd fel anrheg unigryw a pharhaol i chi eich hun, ffrind neu anwylyd. Fel diolch am eich cyfraniad, bydd plac gydag arysgrif o’ch dewis arno yn cael ei roi ar sedd yn ein Prif Theatr am 10 mlynedd.

Ymunwch â ni wrth i ni edrych y tu hwnt i’n blwyddyn hanner canmlwyddiant ac i bennod nesaf stori’r Sherman.

Nodwch os gwelwch yn dda: 

  • Nid yw enwi sedd yn cynnwys unrhyw hawliau archebu ar gyfer y sedd a enwir. 
  • Mae’r arysgrif ar eich plac â chyfyngiad o 75 o lythrennau.
  • Unwaith y byddwn wedi derbyn eich rhodd, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich arysgrif.
  • Bydd eich plac yn cael ei osod o fewn chwe wythnos i’ch rhodd.
  • Bydd eich plac yn aros yn ei le am 10 mlynedd. Yna bydd gennych yr opsiwn i adnewyddu.

I gyfrannu i Enwi Sedd heddiw, cliciwch i wneud cyfraniad ar-lein neu ffoniwch 02920 646900. 

Enwi Sedd