BETH YW EICH STORI SHERMAN CHI?

Sherman yn 50
Yn ystod 50 mlynedd o achlysuron, byddwn ni gyd ag hanesion gwahanol i’w hadrodd am y Sherman – straeon sy’n unigryw i ni gyd. P'un a ydych yn aelod o’r gynulleidfa heddiw neu wedi bod yn y gorffennol, wedi gweithio neu berfformio yma – hoffwn ni glywed eich stori Sherman chi.

Efallai mai atgof am eich ymweliad cyntaf hoffech rannu, sioe sy’n aros yn y cof, hoff ddigwyddiad, neu yn syml, beth mae Theatr y Sherman yn ei olygu i chi. Gall eich stori fod yn rhywbeth a ddigwyddodd eleni neu yn atgof o’r gorffennol, ac efallai eich bod yn mynychu’n rheolaidd neu wedi ymweld â ni sawl mlynedd yn ôl erbyn hyn. Beth bynnag yw eich stori, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych wrth i ni ddathlu ein hanner canmlwyddiant.

Twitter: #fystorishermani
Facebook ac Instagram: Rhowch sylw o dan ein negeseuon cyson am #fystorishermani
E-bost: marketing@shermantheatre.co.uk
Ffôn: 029 2064 6900

Rhannwch eich stori pa bynnag ffordd y dymunwch: mewn geiriau, gyda llun, mae croeso i chi recordio’ch hun yn adrodd y stori a’i rannu dros e-bost – beth bynnag sydd orau i chi.

Hoffwn ni rannu cymaint o’r straeon hyn a gallwn dros gyfryngau cymdeithasol, dulliau marchnata ac ymgyrch i’r wasg. Wrth rannu’ch stori, rhowch wybod i ni hefyd os nad ydych am i Theatr y Sherman gyhoeddi eich stori ar draws ein sianeli.