Yng Ngwobrau Theatr y DU yn ddiweddar a gynhaliwyd yn Llundain, enillodd Theatr Clwyd ddwy wobr haeddiannol iawn, sef Rhagoriaeth mewn Teithio am ei chynhyrchiad o Under Milk Wood a’r wobr Theatr Fwyaf Croesawgar, cydnabyddiaeth wych yn genedlaethol am ei gwaith caled a’i hymroddiad i ddod yn un o’r lleoliadau cynhyrchu gorau yn y DU, gan gyflawni ei chenhadaeth o wneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro.
Cynhyrchiad Theatr Clwyd o Under Milk Wood oedd cynhyrchiad cyntaf Prosiect Craidd, cydweithrediad unigryw rhwng Theatr y Sherman (Caerdydd), Theatr y Torch (Aberdaugleddau), Celfyddydau Pontio (Bangor), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (Caerdydd) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug). Gyda’i gilydd, mae’r bartneriaeth yn gweithio i gyflawni cydraddoldeb parhaol mewn cyflogaeth, cyfranogiad a chynrychiolaeth i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol o fewn theatr brif ffrwd yng Nghymru, gyda’r uchelgais hirdymor o wneud sector theatr Cymru yr un mwyaf hygyrch yn y byd.
Nod Craidd yw newid y ffordd y mae theatr yn cael ei chreu a’i theithio, a sut mae’r sefydliadau’n newid ym mhob agwedd ar eu gwaith gyda gweithredu gwrth alluogrwydd yn ganolog iddynt. Mae pob sefydliad partner yn creu cynhyrchiad ar raddfa ganolig i fawr sy’n teithio i leoliadau’r partneriaid eraill, gyda phob prosiect yn
adeiladu ar ddysgu a rennir. Mae gwybodaeth, heriau ac atebion yn cael eu rhannu’n agored ar draws y bartneriaeth a’r sefydliadau’n rhannu arbenigedd cynhyrchu, capasiti technegol a seilwaith i alluogi gwaith ar raddfa a fyddai’n anodd ei gyflawni ar eu pen eu hunain. Wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant model Ramps on the Moon Lloegr, mae Craidd yn creu dull cynaliadwy a Chymreig unigryw o greu a theithio theatr yn gynhwysol ac yn wrth-alluogol.
Roedd Under Milk Wood yn gynhyrchiad uchelgeisiol o ansawdd uchel, gydag 11 actor DDN ar y llwyfan a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiad sain a chapsiynau wedi’u hintegreiddio ym mhob perfformiad, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd anabl a heb anabledd yn rhannu’r un profiad theatrig yn hytrach na mynychu perfformiadau hygyrch ar wahân. Roedd hyn yn cynrychioli newid sylweddol o fodelau teithio traddodiadol, lle mae darpariaeth mynediad yn cael ei chynnig ar ddyddiadau dethol yn unig yn aml. Dyma hefyd y tro cyntaf i lawer o aelodau cynulleidfa DDN weld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan.
Cafodd darpariaeth mynediad i bawb oedd yn rhan ei hymgorffori o ddechrau’r broses gastio, a buom yn ceisio sicrhau bod cymaint o rwystrau â phosibl yn cael eu goresgyn fel bod pawb oedd yn cael eu clyweld yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac roedd cael galluogwyr creadigol yn yr ystafell yn helpu gyda hyn yn sicr. Fe gawson ni gyfnod ymarfer hirach na’r arfer – pum wythnos o ymarfer a phythefnos yn paratoi’r ochr dechnegol. Mae hyn yn gwbl angenrheidiol wrth ymgorffori mynediad mewn cynhyrchiad ac mae angen ystyried gofynion mynediad pawb; mae heriau penodol wrth weithio gydag actorion byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac actorion sydd â cholled golwg. Roedd yr amser ychwanegol ar gyfer y paratoadau technegol yn galluogi’r tîm i greu ardal gefn llwyfan heb rwystrau, gan ddarparu sgriniau a goleuadau ar gyfer ciwiau a sicrhau bod yr holl geblau oddi ar y llawr. Roedd datrys problemau mewn ffyrdd creadigol yn ymdrech tîm i raddau helaeth, gan arwain at un aelod o’r tîm technegol yn dweud mai hwn oedd profiad gorau ei fywyd.
Wedi’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Kate Wasserberg (sydd, o ganlyniad i’w phrofiad, bellach yn datblygu mynediad integredig a gweithredu gwrth-alluogol yn ei gwaith a’i hymarfer ehangach), roedd yn gynhyrchiad enfawr, bywiog a chyflym gyda’r gwaith cynllunio gan Hayley Grindle, sgôr wreiddiol gan Oliver Vibrans a chyfarwyddyd symudiad gan Laura Meaton. Cafodd ei gynhyrchu gan Jenny Pearce a gasglodd dîm anhygoel i deithio’r cynhyrchiad ledled Cymru, dan arweiniad Suzy Sommerville.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o sioeau teithiol sydd, yn draddodiadol, yn cyrraedd, yn perfformio ac yn gadael o fewn ychydig ddyddiau, cafodd Under Milk Wood gyfnod preswyl oedd yn isafswm o bythefnos o leiaf ym mhob lleoliad partner, gan alluogi i’r cynhyrchiad setlo’n iawn ym mhob cymuned. Wedi’i gyflwyno’n wreiddiol fel mesur mynediad, llwyddodd y dull hwn o weithio i leihau’r blinder a’r pwysau sy’n gysylltiedig â theithio cyson i artistiaid ac aelodau cwmni byddar, anabl a niwroamrywiol. Fodd bynnag, roedd y manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r cwmni ei hun. Roedd cyfnodau preswyl hirach yn galluogi perthnasoedd dyfnach â chynulleidfaoedd lleol ac roedd gweithio gyda’r Asiant Craidd dros Newid (gweithiwr proffesiynol DDN sydd wedi’i gyflogi i weithredu a galluogi newid ym mhob lleoliad partner) yn golygu datblygiad cynulleidfaoedd a gweithgarwch ymgysylltu cymunedol mwy ystyrlon. Roedd hyn yn cynnwys arddangosfa yn Theatr y Torch mewn cydweithrediad â’r Oriel VC leol; perfformiad agoriadol gan bobl ifanc yn Pontio, a pherfformiad gan y grŵp newydd, Sherman Makers, yn Theatr y Sherman. Ni theithiodd y cynhyrchiad i CCDBC ond cynhaliodd eu tîm ymgysylltu â’r gymuned weithdai ar gyfer grwpiau o bobl ifanc DDN a chreu props hyfryd yn seiliedig ar y rhai yn Under Milk Wood.
Mwynhawyd Under Milk Wood gan fwy nag 16,000 o aelodau’r gynulleidfa ledled Cymru, a chafodd adolygiadau rhagorol.
“The accessibility of this production reads as a celebration of inclusivity and the beauty of performance, with both language and movement as one. The captioned display of the play’s words in their rawest form allows us to not only hear the language but see the language. The production is accessible to more people than it would have been without these developments and enhances our ability to understand the beautiful prose.” All That Dazzles
“Cynhyrchiad hyfryd. Roeddwn i’n arbennig o hoff o’r ffordd cafodd Iaith Arwyddion Prydain ei phlethu mor fedrus yn rhan ohono gan yr actorion ar y llwyfan. Rhoddodd hyn ffresni i eiriau eiconig, barddonol Dylan Thomas. Llwyddiant ysgubol i Craidd ac i gynrychiolaeth artistiaid Byddar, anabl yn gorfforol a niwroamrywiol ledled Cymru. Darn o theatr o’r radd flaenaf.” Aelod o’r Gynulleidfa yn y Torch
“Under Milk Wood is a Magical production” WhatsOnStage
“Director Kate Wasserberg emphasises the fantasy and supernatural elements of the poet’s ‘play for voices’ in an entertaining and inclusive production” The Guardian
Mae teithio yng Nghymru wedi bod yn her ers tro byd – wedi’i nodi gan y sector a rhanddeiliaid. Mae’r rhan fwyaf o deithiau’n gwneud un neu ddwy noson ar y mwyaf, pur anaml mae hyd yn oed cwmnïau sydd wedi’u cyllido’n dda ac sydd â statws cenedlaethol yn gwneud mwy na thair neu bedair sioe ym mhob lleoliad. Drwy gyfuno uchelgais artistig â chydweithredu gwirioneddol, dysgu ar y cyd ac
ymrwymiad i gynhwysiant, dangosodd Under Milk Wood sut gall newid arferion teithio greu profiadau gwell nid yn unig i artistiaid a chynulleidfaoedd, ond i’r sefydliadau sy’n gwneud ac yn cyflwyno gwaith.
Roedd y cynhyrchiad hefyd yn brofiad ystyrlon i’r perfformwyr, gyda nifer ohonyn nhw heb berfformio ar y prif lwyfannau yng Nghymru o’r blaen. Roedd bod yn rhan o gwmni lle’r oedd eich gofynion mynediad yn cael eu hystyried, eu bodloni ac wedyn yn cael eu gwirio’n rheolaidd yn golygu bod y perfformwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu ymlacio a chanolbwyntio ar y gwaith. Dywedodd un actor mai dyma’r tro cyntaf mewn cynhyrchiad iddo wir allu bod yn fo’i hun. Gan fod Under Milk Wood yn sioe mor fawr, roedd yn ddiolchgar iawn am yr wythnosau ymarfer a thechnegol ychwanegol ac roedd cael mwy o amser yn sicr yn lleddfu rhywfaint o’r
pwysau ar y cwmni cyfan.
Uchelgais Craidd yw sicrhau bod y dysgu nid yn unig yn sail i gynyrchiadau Craidd yn y dyfodol ond hefyd yn rhannu’r dysgu ar draws y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt. Fel Cyfarwyddwr dros Newid Craidd, yn ddiweddar, mynychais Uwchgynhadledd Hygyrchedd y Cyngor Prydeinig yn Romania, gan dreulio 3 diwrnod gyda chrëwyr theatr yn trafod sut gall ymgorffori rhaglen newid drawsnewid profiadau pobl greadigol a chynulleidfaoedd byddar, anabl a niwroamrywiol a rhannu sut mae’r gwelliannau sefydliadol mewn marchnata a chyfathrebu o fudd i bawb a llawenydd creu gwaith gyda mynediad yn greiddiol iddo. Roedd dyhead gwirioneddol i ddilyn ein hesiampl ni o arfer da a byddwn yn parhau i hyrwyddo model Craidd lle bynnag y gallwn.
Mae Theatr y Sherman bellach yn paratoi i gynhyrchu ail sioe Craidd ond gallant wneud hynny gyda’r wybodaeth bod cynhyrchwyr ac ymarferyddion, ochr yn ochr â’r Asiantau dros Newid, sy’n parhau i rannu gwybodaeth, datblygu atebion a herio rhagdybiaethau. Mae dysgu ynghylch cynhyrchu cynhwysol, logisteg teithio, darparu mynediad a newid sefydliadol yn cael ei ymgorffori ar draws y bartneriaeth, gan ganiatáu i brosiectau yn y dyfodol ddod yn fwy uchelgeisiol ac effeithiol. Rydyn ni’n eithriadol falch o’r effaith y mae Craidd eisoes wedi’i chael ar dalent, timau creadigol a chynulleidfaoedd byddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Drwy ennill y Wobr Rhagoriaeth mewn Teithio, mae Craidd eisoes wedi dangos beth mae gwaith partneriaeth rhagorol yn gallu ei gyflawni. Rydyn ni’n credu, drwy rannu ein dysgu a gweithio gyda’r sector theatr ledled Cymru, y gall Craidd sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod fel y sector theatr mwyaf hygyrch yn y Byd.
Mae rhagor o wybodaeth am gynhyrchu, adolygiadau, cast a phobl greadigol, hysbysebion a lluniau cynhyrchu ar gael yma.