- Mae Balloon Girl wedi’i ysbrydoli gan stori o Gaerdydd ym 1896 sy’n rhoi’r ddinas yng nghanol datblygiadau technolegol ysgubol y cyfnod – ond hefyd y dyngarwch a’r diwygiad cymdeithasol radical a ddaeth yn eu sgil.
- Mae’r sioe newydd hon wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan seren, awdur a chyfarwyddwr rhai o gynyrchiadau mwyaf poblogaidd diweddar y Sherman, gan gynnwys Alice: Return to Wonderland a Tales of the Brothers Grimm, a dyma’r cyd-gynhyrchiad cyntaf gan ei chwmni newydd, Tilt.
Mae sioe nesaf Theatr y Sherman, Balloon Girl (9-24 Hydref) – mewn cyd-gynhyrchiad â Tilt – wedi’i hysbrydoli gan stori wir Louisa Maud Evans, 14 oed, a gollodd ei bywyd mewn stynt balŵn aer poeth ym mis Gorffennaf 1896, yng Nghaerdydd.
Cododd y balŵn o Barc Cathays ar 21 Gorffennaf; roedd y ferch ddewr i fod i arddangos y dechnoleg parasiwt ddiweddaraf o flaen torf o 100,000 fel rhan o Arddangosfa Celfyddyd Gain, Diwydiannol a Morwrol Caerdydd.
Tynnwyd corff Louisa o’r mwd yn Nash Point, Casnewydd, dridiau’n ddiweddarach, ac yn dilyn angladd a ariannwyd gan drigolion Caerdydd, claddwyd hi ym Mynwent Cathays, dafliad carreg o Theatr y Sherman. Daeth y stori, a adroddwyd gan newyddiadurwyr lleol ac a ddychrynodd y byd, yn gatalydd ar gyfer newidiadau radical yng nghyfreithiau llafur plant y DU.
Mae drama newydd wyllt, dychmygus McPake, Balloon Girl, yn dathlu gwaddol a dewrder merch wrthryfelgar a ddaeth yn arwres werin, a’r ddinas a gasglodd ei hadnoddau i’w hanrhydeddu. Yn cwmpasu 2,000 o flynyddoedd o hanes Cymru, o oresgynwyr Rhufeinig ac ysbeilwyr Llychlynnaidd i drigolion Fictoraidd Caerdydd a thu hwnt, bydd hefyd yn taflu goleuni ar allu dyn i gyflawni campau sy’n bell o’r cyffredin, yn aml ar draul pobl gyffredin.
Mae’r cast yn cynnwys Elan Davies (Imrie (Theatr y Sherman a Frân Wen)), Plays From Ur Notes App (Royal Court)), Elin Phillips (Hansel and/a Gretel, Alice in Wonderland), François Pandolfo (Odyssey ‘84, The Taming of the Shrew), Keiron Self (Alice: Return to Wonderland, Peter Pan), Oliver Wood (Alice: Return to Wonderland, A Christmas Carol), Mari Fflur (Alice: Return to Wonderland, Hansel and/a Gretel), Rebecca Wilson (Imrie, A Midsummer Night’s Dream), Seren Vickers (The Turn of the Screw (Torch Theatre), The Great Gatsby (Theatr Clwyd)).
Mae’r cyd-gynhyrchiad mawr, ysblennydd, cyffrous hwn rhwng Made at Sherman a Tilt wedi’i anelu at bob cynulleidfa 8 oed a hŷn, a caiff ei berfformio ym Mhrif Dŷ y Sherman.
Dywedodd Hannah McPake: “Roedd y newidiadau gwleidyddol yn y 1890au – o bleidlais i fenywod i ymwybyddiaeth o LGBTQ+, o hawliau gweithwyr i gyfreithiau llafur plant – yn seismig. Ac fel y mae hanes wedi’i ddangos dro ar ôl tro, daeth y newidiadau hynny o ganlyniad i golledion rhai o’n cyflawniadau diwydiannol, technolegol a gwyddonol mwyaf. Rwy’n gobeithio y bydd Balloon Girl yn dangos i gynulleidfaoedd hen ac ifanc sut mae hanes yn ailadrodd ei hun a sut, ochr yn ochr â’n gallu diderfyn i ddysgu a darganfod, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn mynd â phawb gyda ni.”
Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Mae stori Louisa – a ddechreuodd mor feiddgar ac a ddaeth i ben mor drist lai na milltir o fan hyn – yn union y math o stori leol gyda chyseiniant byd-eang yr ydym wrth ein bodd yn ei dod yn fyw ar ein llwyfannau. Ac mae Hannah McPake, gyda’i llwyddiant rhyfeddol fel actores, awdures a chyfarwyddwr yma yn y Sherman, wedi ysgrifennu drama sy’n gwneud cyfiawnder â Louisa ond sydd hefyd yn cyfarch y ddinas hon a’i phobl. Mae hon yn sioe wefreiddiol na ddylid ei cholli.”
Ochr yn ochr â’r cynhyrchiad, a diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd Theatr y Sherman a Tilt yn creu ac yn cyflwyno prosiect addysg trawsgwricwlaidd ar gyfer sawl ysgol gynradd leol. Bydd disgyblion yn gweithio gyda’r sefydliadau partner Archifau Morgannwg a Chasgliad y Werin Cymru i gael mynediad at ddeunyddiau archif ac ailddarganfod ac ailadrodd y stori ryfeddol a ddigwyddodd ar eu stepen drws. Yna, byddant yn gwylio’r sioe, cyn cymryd rhan mewn ail weithdy lle byddant yn creu arddangosfa ddigidol i gyflwyno eu gweledigaethau o Gaerdydd yn y dyfodol.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae Balloon Girl yn dod â stori ryfeddol o Gaerdydd yn fyw gyda chreadigrwydd a gofal. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn helpu cynulleidfaoedd newydd i gysylltu â gorffennol y ddinas mewn ffordd feiddgar a dychmygus.”